9. Dadl Fer: Manteisio ar Ddyddiau Glawog

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:45, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn wir, mae dŵr yn un o'n hasedau naturiol mwyaf ac yn rhan annatod o'n diwylliant, ein treftadaeth a'n hunaniaeth genedlaethol, ac mae'n rhoi ffurf i'n hamgylchedd naturiol a'n tirweddau. Mae ein dŵr glaw yn syrthio i dros 120 o ddalgylchoedd sy'n ddarostyngedig i amrywiaeth o fathau o ddefnydd tir ac arferion rheoli, a phob un yn effeithio ar ansawdd dŵr. Mae llawer o Gymru'n fynyddig gyda phoblogaeth gymharol isel, gan ychwanegu at yr heriau o ran y seilwaith sydd ei angen i gyflenwi i gwsmeriaid mewn rhai ardaloedd. Oherwydd ein topograffi, wrth i law nesu'n gyflym tuag at yr arfordir yn ystod glaw trwm, mae'n codi llygryddion wrth iddo ddraenio i mewn i'n hafonydd a gall orlethu ein systemau carthffosiaeth sy'n rhai Fictoraidd yn bennaf, gan greu perygl o lifogydd. Felly, mae'r heriau a wynebwn yn debygol o ddod yn fwyfwy anodd, er enghraifft gyda rhagolygon hinsawdd y DU yn darogan hafau sychach a gaeafau gwlypach yng Nghymru.

Credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn inni gofio, ond mae braidd yn eironig yng nghyd-destun y ddadl heddiw, yr haf eithriadol o sych a gawsom y llynedd, gyda llai o law yng Nghymru nag yn 1976 hyd yn oed—i'r rhai ohonom yn y Siambr sy'n ddigon hen i gofio 1976. Creodd hyn ei heriau ei hun i'r cwmnïau dŵr o ran y gallu i wrthsefyll hinsawdd.

Felly, gyda hyn oll i'w ystyried, rydym wedi ymrwymo i ddull mwy integredig o reoli ein dŵr, yn unol â'n polisi rheoli adnoddau naturiol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ac yn 2015, cyhoeddwyd ein strategaeth ddŵr ar gyfer Cymru, sy'n nodi ein cyfeiriad polisi hirdymor.

Felly, pan welais deitl dadl fer Janet Finch-Saunders heddiw, nid oeddwn yn hollol siŵr i ble roeddem yn mynd, ond yn amlwg, cyfeirio at ynni dŵr a wnaeth Janet, rhywbeth sy'n rhan bwysig iawn o'n cymysgedd ynni, ac rwyf finnau hefyd wedi bod yn ffodus i ymweld â sawl cynllun ynni dŵr bach. Roedd Janet i'w gweld yn cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru iddynt, ond heddiw ddiwethaf, cyhoeddais barhad y cynllun cymorth ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer prosiectau ynni dŵr cymunedol ar gyfer 2019-20. Ac mae'r cynllun eisoes wedi cefnogi bron i 50 o brosiectau ynni dŵr yn y flwyddyn, gan gynnwys saith prosiect sy'n eiddo i'r gymuned. Felly, bydd parhad y cynllun grantiau'n galluogi prosiectau cymwys i gadw'r budd mwyaf posibl ar gyfer eu hardal leol, gan eu galluogi i ail-fuddsoddi yn y gymuned leol.

Credaf fod Janet wedi crybwyll bod Mark Isherwood wedi ymweld ag Ynni Ogwen, fel y gwneuthum innau ym mis Tachwedd. Roedd yn ddiddorol iawn gweld bod sylfaenydd-gyfarwyddwr y prosiect hwnnw wedi dweud:

'Mae'r cymorth a gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol i helpu gyda chost ardrethi busnes wedi bod yn help mawr inni, gan arbed £14,000 inni yn ystod ein dwy flynedd gyntaf a sicrhau bod y gwaith caled a wnaeth ein gwirfoddolwyr wrth sefydlu'r cynllun wedi dwyn ffrwyth. Dwi'n falch iawn bod y cymorth hwn yn parhau ar ôl 1 Ebrill. Bydd hyn yn rhoi tipyn o hyder inni wrth inni bwyso a mesur a allwn ni fwrw 'mlaen â'n hail gynllun y flwyddyn nesa.'

Cyfeiriodd Janet at y tariff cyflenwi trydan yn dod i ben, ac o ddifrif, rwy'n credu eich bod yn pwyso wrth ddrws agored gyda mi a Llywodraeth Cymru—y drws yn Llywodraeth y DU lle mae gennych eich Gweinidogion Torïaidd sy'n dod â'r tariff cyflenwi trydan i ben—. A rhaid imi ddweud, ymwelais hefyd â chynllun ynni dŵr nid nepell o Fachynlleth, ar fferm, a dywedodd y ffermwr wrthyf, gyda'r holl arbenigedd a enillodd o roi'r cynllun ar ei fferm, y byddai'n hoffi'n fawr gwneud un arall yn y cwm nesaf, gyda ffermwr arall. Ond oherwydd y gostyngiad yn y tariff cyflenwi trydan, nid oedd yn mynd i fod yn werth ei wneud. Felly, credaf nad Llywodraeth Cymru yn unig sydd angen cyflwyno mentrau i gefnogi ynni dŵr—mae angen i Lywodraeth Geidwadol y DU wneud hynny hefyd. Ond rwy'n credu bod cynlluniau ynni dŵr wedi'u cynllunio'n dda yn enghraifft wych o sut y gallwn harneisio ein hadnoddau naturiol sydd ar gael i ni er budd cymunedau lleol, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwarchod amgylchedd afonydd.

Ar ben arall y raddfa, roeddwn am ddweud wrth gwrs fod gennym y rheoliadau systemau draenio cynaliadwy arloesol a ddaeth i rym ychydig wythnosau'n ôl ar 7 Ionawr. Unwaith eto, byddant yn arwain at ffyrdd arloesol o leihau dŵr ffo a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth mewn amgylcheddau trefol. Ac mae hefyd yn cyfrannu at amddiffyn 163,000 eiddo yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn wynebu perygl o lifogydd dŵr wyneb. Bydd y dull SDCau hefyd yn darparu manteision ychwanegol o ddefnyddio dŵr glaw, megis systemau casglu dŵr glaw, sydd â photensial i leihau'r galw am ddŵr wedi'i drin mewn cartrefi a busnesau.

Cyfeiriodd Janet hefyd at ffermwyr, ac rydym yn darparu cyllid grant i ffermwyr ar gyfer offer casglu a hidlo dŵr, ac mae ein grant cynhyrchu cynaliadwy yn canolbwyntio ar reoli a storio maethynnau er mwyn lleihau achosion o lygredd yn ein cyrsiau dŵr a'r effeithiau ar fflora a ffawna cysylltiedig.

Menter arall—ym mis Rhagfyr, cyhoeddais fersiwn ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru', ' Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10'. Mae'n pwysleisio'r angen i fanteisio ar ddulliau integredig ar gyfer cynllunio a rheoli adnoddau dŵr mewn ardaloedd trefol a gwledig ac mae'n amlygu arferion da ar gyfer defnyddio ein hadnoddau dŵr yng Nghymru.

Fel Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r cwmnïau dŵr yng Nghymru, ac mae ein prif gwmni dŵr, Dŵr Cymru, yn bwriadu gwario £74 miliwn, mwy nag erioed o'r blaen, ar ymchwil ac arloesedd rhwng 2020 a 2024. Credaf mai'r hyn y bydd y buddsoddiad hwnnw'n ei wneud fydd sicrhau rhagor o gydweithio rhwng ein rheolwyr tir a Dŵr Cymru i ddiogelu ansawdd dŵr a gwella gallu'r tir i ddal dŵr, gan wella cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth yn un o'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a drysorwn fwyaf.

Felly, rydym yn parhau i gynllunio ar gyfer cydnerthedd dŵr mwy hirdymor. Mae angen inni roi camau ar waith i gefnogi ein hamgylchedd, ein cymunedau a'n busnesau, ac mae'r cwmnïau dŵr ar hyn o bryd yn paratoi eu cynlluniau rheoli dŵr ar gyfer y cyfnod nesaf o 25 mlynedd o 2020 ymlaen. Bydd y cynlluniau hyn yn dangos sut y rheolir ac y diwellir y galw am ddŵr hyd at 2045, ac mae angen y cynlluniau er mwyn ystyried amcanestyniadau newid hinsawdd, twf y boblogaeth a datblygiadau newydd.

Mae polisi dŵr yn bwnc allweddol yma yng Nghymru, a bydd angen inni arddangos arweinyddiaeth gadarn ar y cyd er mwyn parhau i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl Cymru. Diolch.