– Senedd Cymru am 5:31 pm ar 23 Ionawr 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allant fynd yn gyflym? Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i—[Torri ar draws.] Un funud. Symudaf yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc a ddewisodd. Janet.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.
Gwneud y gorau o ddiwrnodau glawog yng Nghymru—pan fo llawer o bobl yn meddwl am Gymru, un peth a ddaw i'r meddwl yw ei henw fel man sydd wedi arfer â diwrnodau glawog niferus. Yn wir, yn ôl y Swyddfa Dywydd,
Mae gan Gymru hinsawdd sy'n arforol i bob pwrpas, gyda thywydd sy'n aml yn gymylog, yn wlyb a gwyntog ond yn fwyn.
Eryri, yn y gogledd, yw'r ardal wlypaf, a cheir glawiad blynyddol cyfartalog o dros 3,000 mm—sy'n uwch o lawer na'r cymunedau arfordirol a'r rhai ar hyd y ffin â Lloegr, sy'n cael llai na 1,000 mm y flwyddyn. Er y gall hyn ymddangos yn fach mewn cymhariaeth, mewn gwirionedd mae gennym ardaloedd trefol gwlyb iawn hefyd. Caerdydd yw'r ddinas wlypaf yn y DU, ac mae'n cael 115 cm ar gyfartaledd bob blwyddyn—mwy na Manceinion.
Yn amlwg, gellid dadlau mai Cymru gyfan, o Fae Caerdydd i Gapel Curig, yw'r rhan wlypaf o'r DU. Mae tystiolaeth o'r digonedd o law a geir yma yn amlwg o ystyried y ffaith drawiadol mai'r Deyrnas Unedig, o'r holl wledydd yn Ewrop, sydd yn y pumed safle o ran dyddodiad cyfartalog, ar ôl Gwlad yr Iâ, y Swistir, Albania a Norwy.
Yn y ddadl hon, rwy'n mynd i roi munud i Suzy Davies hefyd.
Mae effaith glaw yn hysbys iawn i'r Siambr hon oherwydd y dinistr a achosir gan lifogydd, fel yn fy etholaeth i, Aberconwy. Yn hytrach na sôn am y pethau negyddol hyn, heddiw rwyf am sbarduno rhaeadr o gydweithrediad a sgwrs am ddŵr glaw, ein hadnodd naturiol mwyaf o bosibl.
Nid ydym yn anghyfarwydd â manteision glaw yng Nghymru. Yn wir, defnyddir dŵr glaw eisoes i gynhyrchu ynni gwyrdd a glân, diolch i'n cynlluniau ynni dŵr. Yn wahanol i ffynonellau eraill o ynni, mae ynni dŵr yn cynnig cynhyrchiant hirdymor, ac mae gan gynlluniau hyd oes o 80 mlynedd, o gymharu â 25 mlynedd yn achos ynni gwynt ac ynni'r haul, a 35 mlynedd yn achos ynni niwclear.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae disgwyl i Gymru gynhyrchu 70 y cant o'r trydan a ddefnyddia o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Wrth ystyried ein bod ar hyn o bryd ar oddeutu 50 y cant, a hyd oes hwy cynlluniau ynni dŵr, mae'n rhesymegol inni wella cynhyrchiant ynni adnewyddadwy drwy ynni dŵr.
Yn wir, ceir potensial sylweddol yn y sector hwn. Er enghraifft, er bod cynhwysedd gosodedig o 1,676 MW yn y DU ar hyn o bryd, mae astudiaethau diweddar o adnoddau wedi dangos bod potensial ymarferol i gael 2 GW pellach o gynhwysedd. Yn fwy na hynny, canfu adroddiad fod gan Gymru botensial ymarferol i ddarparu rhwng 26,730 kW a 63,000 kW o gynhwysedd ynni dŵr. Yn amlwg, dyma gyfle a gollwyd, yn enwedig o ran datblygiad pellach cynlluniau llai o faint.
Fel y dywedodd Claire Perry, y Gweinidog Gwladol dros Ynni a Thwf Glân:
O orsafoedd pŵer i baneli solar, mae'r dyfodol yn lleol.
Mae hi'n gywir. Er enghraifft, ceir tua 600 o afonydd yng Nghymru, a gallai llawer ohonynt ddarparu ffynhonnell bosibl ar gyfer ynni dŵr, er enghraifft drwy gynlluniau ynni dŵr micro, pico ac ar raddfa fach. Ymwelais â datblygiad bach yn fy etholaeth, ac rwy'n ymwybodol o brosiectau eraill sy'n cynhyrchu rhwng 30 a 100 kW yr awr, ac rwy'n deall bod fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi bod yn gweld cynllun ynni dŵr yr wythnos diwethaf.
Bethesda, do.
Bethesda. Fodd bynnag, yng ngweddill Cymru, nid yw ynni dŵr yn ffynnu. 'Pam?' yw'r cwestiwn.
Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnig benthyciadau, grantiau a chymorth technegol ar gyfer datblygu cynlluniau ynni dŵr, megis drwy'r gwasanaeth ynni lleol, y gronfa datblygu cymunedau gwledig, a'r cynllun grant cynhyrchu cynaliadwy. Mae'n swnio'n gadarnhaol iawn, ond mae'r realiti ychydig yn wahanol.
Nawr, ar ôl siarad â fy etholwyr, rwy'n credu bod rhai heb gael dewis heblaw dibynnu ar fenthyciadau banc i ariannu 100 y cant o'u datblygiadau, tra bod eraill yn derbyn grant drwy Cyswllt Ffermio ar gyfer gwasanaeth a fyddai wedi bod yn rhatach yn y pen draw pe baent wedi mynd ati'n annibynnol i'w ddarparu. Fel y cafodd ei roi i mi, nid oes yr un o'r holl ffyrdd o gael cymorth a amlinellir gan Lywodraeth Cymru yn annog, cymell neu gefnogi buddsoddiad mewn ynni dŵr gan dirfeddianwyr.
Mae'n ofid fod cyllid yn parhau i rwystro pobl rhag cyflwyno mwy o gynlluniau, twf yr ynni adnewyddadwy pwysig hwn a'r defnydd o'n glaw. Yn wir, fel yr eglurodd un perchennog glannau afon, mae cost y cynlluniau'n rhy uchel. Nawr, fel y gwyddoch efallai, mae'r cynllun tariff cyflenwi trydan yn dod i ben ym mis Mawrth. Bu'n llwyddiant oherwydd bod cyflenwyr ynni, drwy'r cynllun hwn, wedi gallu gwneud taliadau rheolaidd i ddeiliaid tai a chymunedau sy'n cynhyrchu eu trydan eu hunain. Nawr, yn wyneb y golled hon, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi cydnabod pwysigrwydd helpu i gynnal llwybr i'r farchnad ar gyfer cynhyrchiant carbon isel ar raddfa fach, a'i bod bellach yn ymgynghori ar y warant allforio doeth.
Wrth geisio gwneud mwy i helpu safleoedd ynni dŵr bach, credaf y dylai Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru—mae ganddynt ran i'w chwarae yn hyn a gallent wneud mwy. Er enghraifft, gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gofyn am hyd at £1,500 am drwydded echdynnu—gan gyfrannu at y pwll tro ariannol y mae llawer yn tybio yw ynni dŵr ar hyn o bryd. Gwn hefyd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud y gwaith o ddatblygu rhai cynlluniau bron yn amhosibl, ar ôl mynnu mewn un achos—nawr, gwrandewch ar hyn—fod metrau o ffos yn cael eu cloddio â llaw.
Nid yw'n syndod fod fy ymchwil wedi fy ngwneud yn siomedig iawn ynglŷn â'r ymagwedd ymddangosiadol tuag at ynni dŵr nad yw'n ysbrydoli ein tirfeddianwyr glannau afon i fuddsoddi. Gallent fod yn harneisio adnodd gwych, rhad ac am ddim: dŵr glaw. Gellir newid hyn drwy alluogi ynni dŵr i ffynnu drwy: gyflwyno rhaglen datblygu ynni dŵr sy'n darparu grant o 50 y cant tuag at gyfanswm y gost o adeiladu cynlluniau ynni dŵr yn y dyfodol a grant o 75 y cant tuag at y gost o roi caniatâd i gynlluniau yn y dyfodol; darparu cymhellion i fuddsoddi mewn seilwaith, megis benthyciadau ar gyfer offer i'w talu dros gyfnodau hwy o amser, i gyd-fynd â hyd oes yr ased. Hefyd, gallent fod yn gwahodd tirfeddianwyr i fynegi diddordeb mewn datblygu cynllun, ac yn gyfnewid, lle y bo hynny'n rhesymol, gallent gael astudiaeth ddichonoldeb yn rhad ac am ddim ymhell cyn i fuddsoddi ddigwydd, neu cyn iddynt orfod rhoi arian tuag at ddylunio, cynlluniau neu drwyddedau.
Nawr, o ran y pwynt olaf, fe fyddwch yn ymwybodol fod disgwyl i awdurdodau cynllunio asesu'r cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel yn eu hardal, a defnyddio'r dystiolaeth i sefydlu polisïau arbennig yn eu cynllun datblygu sy'n nodi'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygu. Rwyf wedi edrych yn agosach ar sut y mae disgwyl iddynt wneud hyn ac wedi gweld bod pwyslais arbennig ar astudiaethau blaenorol. Er bod hyn yn rhesymol, credaf y gellid cyflawni mwy drwy wahodd ein tirfeddianwyr i weithio gyda'r Llywodraeth a chydweithredu. Yn sicr, byddai hwn yn gam cadarnhaol a fyddai'n helpu Cymru'n sylweddol i weld a gwneud mwy o ddefnydd o law.
Mae'r hyn rwy'n gofyn amdano'n galw am weledigaeth go syml, un y credaf y gallwn i gyd gytuno arni: yr angen i greu Cymru fwy gwyrdd a mwy gwydn. Mae hyn yn wir i lawr i lefel pob un o'n cartrefi, lle mae arnaf ofn nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn gwneud y mwyaf o'n glaw.
Daw hyn â mi at y cam olaf y credaf y dylem ei ystyried i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o ddŵr glaw. Mae'n rhywbeth sydd gennym yma yn yr adeilad hwn: cynllun casglu dŵr glaw, sy'n golygu bod dŵr glaw yn cael ei gasglu oddi ar y prif doeau, ei storio mewn dau danc 50,000 litr a'i ddefnyddio yn yr adeilad hwn. Er enghraifft, gwelwyd defnydd o ddŵr glaw i fflysio toiledau, i ddyfrhau a chynnal a chadw, gan arwain at dorri'r galw am ddŵr i gyn lleied â phosibl. Mae rhai o fanteision eraill casglu dŵr glaw yn cynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio'r dŵr ar gyfer bwydo anifeiliaid, dyfrio planhigion, systemau gwresogi, gwrthsefyll llifogydd ac yn bennaf oll, er mwyn talu costau cynyddol biliau cyfleustodau, sydd bellach, o gynnwys y codiad yn y bil dŵr a charthfosiaeth cyfartalog yng Nghymru, oddeutu £439 yn y flwyddyn arannol ddiwethaf.
Wrth ystyried y gall systemau casglu dŵr weithio oddi ar doeau bron bob un o'n cartrefi, credaf ei bod yn drueni na cheir fawr o enghreifftiau y gellir cyfeirio atynt. Y rheswm am hyn o bosibl yw'r ffaith nad yw'n ymddangos bod unrhyw gefnogaeth ar gael ar gyfer cynlluniau casglu dŵr glaw yng Nghymru. Yn wir, mae'r ffynhonnell agosaf o gymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rheolwyr tir a busnesau fferm i gaffael a gosod eu nwyddau dŵr glaw newydd eu hunain, boed yn gafnau neu bibellau dŵr. Yn fy marn i, mae'r sefyllfa hon yn chwerthinllyd, gan mai'r hyn a welwn yw Llywodraeth Cymru yn talu i law fynd i lawr y draen. Onid ydych yn cytuno y byddai'n gwneud synnwyr i helpu i ariannu'r cynlluniau casglu dŵr glaw hynny hefyd?
Hoffwn gloi fy nghyfraniad—a gobeithiaf ei fod wedi darparu gweledigaeth bwysig ar gyfer Cymru, ac un y gellir ei chyflawni, os oes uchelgais, os oes dyhead, ac os oes ysgogiad. Ac rwy'n hoff o roi sypreisys, felly rwy'n mynd i ddyfynnu o gân Gymraeg enwog iawn:
‘Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, / Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; / Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si / Ei nentydd, afonydd, i mi.'
Onid ydych yn cytuno, Weinidog, fod gan y dirwedd a ddisgrifir mor enwog yn y geiriau hardd hynny botensial i gynnig mwy i Gymru, ac yn wir, y byddai sŵn y nentydd a'r afonydd yn felysach byth pan fydd y dŵr a gyfeiriant wedi cael y cyfle gorau posibl i greu ynni gwyrdd, i'w ddefnyddio yn ein cartrefi, ac i helpu i leihau ein biliau ynni?
Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am bontio'n berffaith, Janet, oherwydd roeddwn ar fin dweud hyd yn oed os ydym yn clywed bod twristiaid yn cwyno am y glaw yng Nghymru, mewn gwirionedd, glaw yw ein harf cudd. Mae'n helpu, ynghyd â gwaith da ffermwyr ac amgylcheddwyr eraill, i greu y tirweddau sy'n gwneud hon yn wlad mor atyniadol, gyda'i chaeau gwyrdd, a'i mawnogydd, a'i hafonydd a'i llynnoedd.
Mae'r cynlluniau ynni dŵr roedd Janet yn sôn amdanynt yn atyniad ynddynt eu hunain hefyd wrth gwrs. Yn amlwg, Dinorwig yw seren fawr y sioe yn hyn o beth, ond fel y gŵyr Dai, mae gennym gynllun ynni dŵr bach yng nghoedwig Penllergare yn ein rhanbarth, ac mae hynny ynddo'i hun yn rhan o atyniad y dyffryn hwnnw.
Blwyddyn Antur, Blwyddyn y Môr, credaf fod Croeso Cymru—wel, mae'n amlwg eu bod wedi sylweddoli bod dŵr yn bwysig i'r hyn a werthwn yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd ystadegau niferoedd yr ymwelwyr yn y flwyddyn neu ddwy nesaf yn dangos bod ymwelwyr wrth eu boddau â dyfroedd Cymru.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Janet, am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw.
Yn sicr gwelwn lawer o law yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n sicr na fydd yn syndod i'r Aelodau wybod nad yw bob amser yn syrthio yn y lle iawn nac ar yr adeg iawn i ni allu gwneud y gorau ohono, a gall rheoli ei ddefnydd a'i effeithiau fod yn heriol yn sicr. Felly, credaf ei bod yn ddefnyddiol inni osod y cefndir. Mae natur daearyddiaeth a daeareg yn golygu na ellir casglu ond ychydig iawn o ddŵr glaw gyda thua 3 y cant ohono'n cael ei ddal gan seilwaith y cwmnïau dŵr. Daw tua 95 y cant o'r dŵr a ddelir i'w ddefnyddio yng Nghymru o echdynnu dŵr wyneb, gan nad yw ein cronfeydd dŵr daear ond yn dal llai na 5 y cant o'r dŵr sydd ei angen ar gyfer cyflenwadau cyhoeddus.
Yn wir, mae dŵr yn un o'n hasedau naturiol mwyaf ac yn rhan annatod o'n diwylliant, ein treftadaeth a'n hunaniaeth genedlaethol, ac mae'n rhoi ffurf i'n hamgylchedd naturiol a'n tirweddau. Mae ein dŵr glaw yn syrthio i dros 120 o ddalgylchoedd sy'n ddarostyngedig i amrywiaeth o fathau o ddefnydd tir ac arferion rheoli, a phob un yn effeithio ar ansawdd dŵr. Mae llawer o Gymru'n fynyddig gyda phoblogaeth gymharol isel, gan ychwanegu at yr heriau o ran y seilwaith sydd ei angen i gyflenwi i gwsmeriaid mewn rhai ardaloedd. Oherwydd ein topograffi, wrth i law nesu'n gyflym tuag at yr arfordir yn ystod glaw trwm, mae'n codi llygryddion wrth iddo ddraenio i mewn i'n hafonydd a gall orlethu ein systemau carthffosiaeth sy'n rhai Fictoraidd yn bennaf, gan greu perygl o lifogydd. Felly, mae'r heriau a wynebwn yn debygol o ddod yn fwyfwy anodd, er enghraifft gyda rhagolygon hinsawdd y DU yn darogan hafau sychach a gaeafau gwlypach yng Nghymru.
Credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn inni gofio, ond mae braidd yn eironig yng nghyd-destun y ddadl heddiw, yr haf eithriadol o sych a gawsom y llynedd, gyda llai o law yng Nghymru nag yn 1976 hyd yn oed—i'r rhai ohonom yn y Siambr sy'n ddigon hen i gofio 1976. Creodd hyn ei heriau ei hun i'r cwmnïau dŵr o ran y gallu i wrthsefyll hinsawdd.
Felly, gyda hyn oll i'w ystyried, rydym wedi ymrwymo i ddull mwy integredig o reoli ein dŵr, yn unol â'n polisi rheoli adnoddau naturiol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ac yn 2015, cyhoeddwyd ein strategaeth ddŵr ar gyfer Cymru, sy'n nodi ein cyfeiriad polisi hirdymor.
Felly, pan welais deitl dadl fer Janet Finch-Saunders heddiw, nid oeddwn yn hollol siŵr i ble roeddem yn mynd, ond yn amlwg, cyfeirio at ynni dŵr a wnaeth Janet, rhywbeth sy'n rhan bwysig iawn o'n cymysgedd ynni, ac rwyf finnau hefyd wedi bod yn ffodus i ymweld â sawl cynllun ynni dŵr bach. Roedd Janet i'w gweld yn cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru iddynt, ond heddiw ddiwethaf, cyhoeddais barhad y cynllun cymorth ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer prosiectau ynni dŵr cymunedol ar gyfer 2019-20. Ac mae'r cynllun eisoes wedi cefnogi bron i 50 o brosiectau ynni dŵr yn y flwyddyn, gan gynnwys saith prosiect sy'n eiddo i'r gymuned. Felly, bydd parhad y cynllun grantiau'n galluogi prosiectau cymwys i gadw'r budd mwyaf posibl ar gyfer eu hardal leol, gan eu galluogi i ail-fuddsoddi yn y gymuned leol.
Credaf fod Janet wedi crybwyll bod Mark Isherwood wedi ymweld ag Ynni Ogwen, fel y gwneuthum innau ym mis Tachwedd. Roedd yn ddiddorol iawn gweld bod sylfaenydd-gyfarwyddwr y prosiect hwnnw wedi dweud:
'Mae'r cymorth a gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol i helpu gyda chost ardrethi busnes wedi bod yn help mawr inni, gan arbed £14,000 inni yn ystod ein dwy flynedd gyntaf a sicrhau bod y gwaith caled a wnaeth ein gwirfoddolwyr wrth sefydlu'r cynllun wedi dwyn ffrwyth. Dwi'n falch iawn bod y cymorth hwn yn parhau ar ôl 1 Ebrill. Bydd hyn yn rhoi tipyn o hyder inni wrth inni bwyso a mesur a allwn ni fwrw 'mlaen â'n hail gynllun y flwyddyn nesa.'
Cyfeiriodd Janet at y tariff cyflenwi trydan yn dod i ben, ac o ddifrif, rwy'n credu eich bod yn pwyso wrth ddrws agored gyda mi a Llywodraeth Cymru—y drws yn Llywodraeth y DU lle mae gennych eich Gweinidogion Torïaidd sy'n dod â'r tariff cyflenwi trydan i ben—. A rhaid imi ddweud, ymwelais hefyd â chynllun ynni dŵr nid nepell o Fachynlleth, ar fferm, a dywedodd y ffermwr wrthyf, gyda'r holl arbenigedd a enillodd o roi'r cynllun ar ei fferm, y byddai'n hoffi'n fawr gwneud un arall yn y cwm nesaf, gyda ffermwr arall. Ond oherwydd y gostyngiad yn y tariff cyflenwi trydan, nid oedd yn mynd i fod yn werth ei wneud. Felly, credaf nad Llywodraeth Cymru yn unig sydd angen cyflwyno mentrau i gefnogi ynni dŵr—mae angen i Lywodraeth Geidwadol y DU wneud hynny hefyd. Ond rwy'n credu bod cynlluniau ynni dŵr wedi'u cynllunio'n dda yn enghraifft wych o sut y gallwn harneisio ein hadnoddau naturiol sydd ar gael i ni er budd cymunedau lleol, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwarchod amgylchedd afonydd.
Ar ben arall y raddfa, roeddwn am ddweud wrth gwrs fod gennym y rheoliadau systemau draenio cynaliadwy arloesol a ddaeth i rym ychydig wythnosau'n ôl ar 7 Ionawr. Unwaith eto, byddant yn arwain at ffyrdd arloesol o leihau dŵr ffo a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth mewn amgylcheddau trefol. Ac mae hefyd yn cyfrannu at amddiffyn 163,000 eiddo yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn wynebu perygl o lifogydd dŵr wyneb. Bydd y dull SDCau hefyd yn darparu manteision ychwanegol o ddefnyddio dŵr glaw, megis systemau casglu dŵr glaw, sydd â photensial i leihau'r galw am ddŵr wedi'i drin mewn cartrefi a busnesau.
Cyfeiriodd Janet hefyd at ffermwyr, ac rydym yn darparu cyllid grant i ffermwyr ar gyfer offer casglu a hidlo dŵr, ac mae ein grant cynhyrchu cynaliadwy yn canolbwyntio ar reoli a storio maethynnau er mwyn lleihau achosion o lygredd yn ein cyrsiau dŵr a'r effeithiau ar fflora a ffawna cysylltiedig.
Menter arall—ym mis Rhagfyr, cyhoeddais fersiwn ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru', ' Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10'. Mae'n pwysleisio'r angen i fanteisio ar ddulliau integredig ar gyfer cynllunio a rheoli adnoddau dŵr mewn ardaloedd trefol a gwledig ac mae'n amlygu arferion da ar gyfer defnyddio ein hadnoddau dŵr yng Nghymru.
Fel Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r cwmnïau dŵr yng Nghymru, ac mae ein prif gwmni dŵr, Dŵr Cymru, yn bwriadu gwario £74 miliwn, mwy nag erioed o'r blaen, ar ymchwil ac arloesedd rhwng 2020 a 2024. Credaf mai'r hyn y bydd y buddsoddiad hwnnw'n ei wneud fydd sicrhau rhagor o gydweithio rhwng ein rheolwyr tir a Dŵr Cymru i ddiogelu ansawdd dŵr a gwella gallu'r tir i ddal dŵr, gan wella cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth yn un o'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a drysorwn fwyaf.
Felly, rydym yn parhau i gynllunio ar gyfer cydnerthedd dŵr mwy hirdymor. Mae angen inni roi camau ar waith i gefnogi ein hamgylchedd, ein cymunedau a'n busnesau, ac mae'r cwmnïau dŵr ar hyn o bryd yn paratoi eu cynlluniau rheoli dŵr ar gyfer y cyfnod nesaf o 25 mlynedd o 2020 ymlaen. Bydd y cynlluniau hyn yn dangos sut y rheolir ac y diwellir y galw am ddŵr hyd at 2045, ac mae angen y cynlluniau er mwyn ystyried amcanestyniadau newid hinsawdd, twf y boblogaeth a datblygiadau newydd.
Mae polisi dŵr yn bwnc allweddol yma yng Nghymru, a bydd angen inni arddangos arweinyddiaeth gadarn ar y cyd er mwyn parhau i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.