Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 29 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:41, 29 Ionawr 2019

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yn ystod eich gaeaf cyntaf wrth y llyw fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cafodd 80 y cant o'r rheini oedd yn mynychu adrannau brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr. Mae hynny, wrth gwrs, yn is na'r targed o 95 y cant. Fis diwethaf, dim ond 77.8 y cant o bobl gafodd eu gweld o fewn pedair awr. Dyma'r record waethaf ar gyfer unrhyw fis Rhagfyr hyd yma. Allwch chi egluro pam mae perfformiad adrannau A&E yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog Iechyd, ac yna fel Gweinidog Cyllid, a bellach fel Prif Weinidog, wedi mynd o ddrwg i waeth?