1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 29 Ionawr 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yn ystod eich gaeaf cyntaf wrth y llyw fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cafodd 80 y cant o'r rheini oedd yn mynychu adrannau brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr. Mae hynny, wrth gwrs, yn is na'r targed o 95 y cant. Fis diwethaf, dim ond 77.8 y cant o bobl gafodd eu gweld o fewn pedair awr. Dyma'r record waethaf ar gyfer unrhyw fis Rhagfyr hyd yma. Allwch chi egluro pam mae perfformiad adrannau A&E yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog Iechyd, ac yna fel Gweinidog Cyllid, a bellach fel Prif Weinidog, wedi mynd o ddrwg i waeth?
Wel, Llywydd, mae hwnna'n ddisgrifiad rhannol ac annheg iawn o'r gwaith y mae adrannau achosion brys yng Nghymru wedi ei wneud dros y gaeaf hwn. Mae'n sicr yn wir bod nifer y bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar sail frys yr uchaf a welwyd erioed ym mis Rhagfyr, ac, er gwaethaf hynny, mae'r system wedi bod yn fwy cydnerth y gaeaf hwn nag yn y flwyddyn flaenorol. Rydym ni wedi gweld lleihad o ran oedi wrth drosglwyddo gofal; rydym ni wedi gweld lleihad o ran oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans; rydym ni wedi gweld gwelliannau o ran cydnerthedd y system, gyda llai o ysbytai yn datgan eu bod nhw o dan y lefel uchaf o bwysau.
Mae'r Aelod yn iawn wrth ddewis un enghraifft lle mae'r system wedi bod o dan y straen mwyaf, sef gweld pobl o fewn y targed o bedair awr. Mewn gwirionedd, mae mwyafrif y byrddau iechyd yng Nghymru wedi gwella eu perfformiad yn hynny o beth. Mae ffigur Cymru gyfan yn cael ei ostwng gan y ffaith bod y perfformiad wedi dirywio mewn dau fwrdd iechyd.
Llywydd, y cyfnod canolrifol y bu'n rhaid i bobl a aeth i adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru aros ym mis Rhagfyr, er gwaethaf y pwysau sydd ar y system, oedd dwy awr a 25 munud, o'r amser iddyn nhw gyrraedd, nid tan yr amser iddyn nhw gael eu gweld, ond tan yr amser iddyn nhw fod wedi cael eu gweld, eu trin, a naill ai eu derbyn i'r ysbyty neu eu rhyddhau i fynd adref. Credaf fod honno'n deyrnged aruthrol i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y staff ymroddedig sy'n gweithio o dan cymaint o bwysau o ran niferoedd ac amodau, a dyna lle byddwn i'n rhoi fy mhwyslais y prynhawn yma.
Mae'n rhaid i fi ddweud, rwy'n gresynu at ateb y Prif Weinidog. Mae'r perfformiad yn Lloegr, sydd eisoes ar y blaen i Gymru, wedi parhau i wella yn ystod y 12 mis diwethaf, tra bod ffigurau perfformiad yr Alban yn gyson uchel—dros 90 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn yr amser targed. Nawr, wrth edrych o dan wyneb y ffigur cenedlaethol Cymreig, daw enghreifftiau fwy dyrys fyth o ran perfformiad i'r golwg. Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r adran A&E sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Gyfunol i gyd. Yno, bu'n rhaid i bron hanner y bobl aros dros bedair awr i gael eu gweld. Ysbyty Glan Clwyd yn Llanelwy ydy'r trydydd gwaethaf yn y Deyrnas Gyfunol, a bu'n rhaid i bron 700 o bobl fis diwethaf aros yno dros 12 awr. I roi hyn mewn bach o bersbectif, dim ond 210 o bobl fu’n rhaid aros dros 12 awr i gael eu gweld yn holl ysbytai'r Alban ym mis Tachwedd, a phan drown ni at gleifion yn sownd mewn ambiwlansys, mae bron i ddau draean o gleifion yn aros mwy na chwarter awr mewn ambiwlans y tu allan i ysbytai Maelor a Glan Clwyd. A yw’r methiannau yma mor ddifrifol erbyn hyn fel eu bod nhw’n peri peryg i fywyd?
Wel, Llywydd, mae'n annerbyniol bod pobl yn cael eu cadw yn aros mewn rhai lleoedd yn y ffordd y disgrifiodd yr Aelod, ac nid yw'r perfformiad yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn dderbyniol i GIG Cymru, nid yw'n dderbyniol i'r Gweinidog ac nid yw'n dderbyniol i fwrdd Betsi Cadwaladr ychwaith. Mae ymdrechion aruthrol yn cael eu gwneud i wneud yn siŵr bod y sefyllfa yno yn cael ei gwella ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Aelod yn dewis cyfeirio heddiw at Loegr fel y gymhariaeth i Gymru y mae'n ei ffafrio. Gadewch i mi ddweud wrtho yr hyn a ddywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ym mis Ionawr, mis Ionawr eleni, am y perfformiad yn Lloegr, pan ddywedodd y coleg mae'r defnydd o welyau yn dal i fod yn agos at 95 y cant ac mae amodau i gleifion a staff mewn Adrannau Achosion Brys
—yn Lloegr, yn anodd dros ben.
Ac maen nhw'n anodd dros ben yng Nghymru hefyd, ond nid oes ateb hawdd i gyfeirio at rywle sydd â phopeth yn iawn. Rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n wir. Ar y cyfan, mae perfformiad ledled Cymru yn ystod y gaeaf hwn wedi bod yn well na'n sefyllfa y llynedd, a lle ceir problemau, byddwn yn mynd i'r afael â nhw.
Wel, fe wnes i ofyn i’r Prif Weinidog a oedd y sefyllfa yma erbyn hyn yn beryg bywyd. Wel, dros y flwyddyn ddiwethaf—wnaeth e ddim ateb hynny, naddo? Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r crwner yn y gogledd wedi cyflwyno hysbysiad i’r NHS yng Nghymru i atal marwolaethau yn y dyfodol ar bedwar achlysur gwahanol. Yn yr adroddiadau hyn, mae’r crwner yn tynnu sylw penodol at bryderon ynghylch ambiwlansys yn cael eu dal yn ôl, prinder staff ac oedi cyn cael triniaeth mewn adrannau brys. Yn ei adroddiad diweddaraf, yn achos Gladys May Williams, dywed John Gittins, prif grwner y gogledd, nad oes unrhyw arwydd fod cynnydd yn cael ei wneud er gwaetha’r ffaith iddo leisio pryderon dro ar ôl tro. Mae’n dweud hefyd ei fod yn hynod bryderus bod bywydau cleifion yn cael eu rhoi mewn perygl o ganlyniad.
Ddoe, gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, roedd Andrew Goodall, prif weithredwr NHS Cymru, yn cyfaddef bod perfformiad adrannau brys Betsi Cadwaladr yn annerbyniol a’i fod wedi gwaethygu ers i chi osod y bwrdd dan fesurau arbennig ym Mehefin 2015, tair blynedd a hanner yn ôl. A hynny’n rhannol yn sgil colli golwg ar berfformiad A&E gan nad oedd yn faes wnaethoch chi flaenoriaethu ar gyfer ymyrraeth o’r dechrau.
Ydych chi’n difaru hynny erbyn hyn? Ydych chi’n derbyn bod maint y broblem yma mor ddifrifol bod gofyn inni gael adolygiad annibynnol ar fyrder i edrych ar gyflwr gofal brys drwy Gymru gyfan, gan ddechrau yn y gogledd? Neu, fel digwyddodd yn achos Tawel Fan, oes rhaid inni aros am ragor o boen a dioddef diangen cyn y byddwch chi’n barod i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu?
Llywydd, rwyf i eisoes wedi dweud ein bod ni'n derbyn hynny. Nid yw perfformiad mewn rhai rhannau o'r GIG wedi bod yn dderbyniol. Rydym ni'n ymwybodol o hynny gan fod y gwiriadau cydbwysedd yn y GIG, yr adroddiadau yr ydym ni'n eu cael gan bobl fel crwneriaid, fel Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, o'r tu mewn i'r system ei hun, yn rhoi'r wybodaeth i ni sydd ei hangen arnom i allu canolbwyntio ar y mannau hynny, lle nad yw'r gwelliant cyffredinol yr ydym ni wedi ei weld yn y GIG yng Nghymru dros y gaeaf hwn wedi bod yn amlwg.
Llywydd, nid wyf i'n cytuno o gwbl mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw adroddiad arall ar GIG Cymru. Rydym ni'n ymwybodol o'r pethau y mae angen eu gwneud. Rydym ni'n gwybod lle ceir mannau cyfyng. Y dasg yw bwrw ati a gwneud yn siŵr bod y gwelliannau cyffredinol yn cael eu rhannu mewn mannau eraill ac ym mhob man, ac nid ydym ni angen i fisoedd a misoedd gael eu colli i ymchwiliad arall o'r math y mae'r Aelod yn ei awgrymu i roi'r wybodaeth honno i ni.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, taflodd arolwg diweddar gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost oleuni ar y ffaith ysgytwol bod un o bob 20 o bobl yn y DU nad yw'n credu bod yr Holocost wedi digwydd mewn gwirionedd. Yng ngoleuni hyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y rhoddir sylw i'r gwadiad hwn a chyffredinrwydd gwrth-Semitiaeth, a'n bod ni'n gweithio i gadw cof arswydus yr Holocost yn berthnasol fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o hanes?
Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud? Mae'n syfrdanol darllen y ffigur hwnnw, ac yn anodd iawn credu mewn gwirionedd sut y gall fod yn wir y byddai'r nifer hwnnw o bobl yn cael eu denu gan yr ymdeimlad hwnnw o wadu un o ddigwyddiadau mwyaf ofnadwy yr holl ugeinfed ganrif. Mae'r gwaith o fynd i'r afael â hyn yn disgyn yn rhannol ar Lywodraeth, wrth gwrs, a bydd y Llywodraeth hon eisiau gwneud popeth y gallwn. Roeddwn i'n falch iawn o allu ymuno ag Aelodau eraill y Cynulliad hwn yn y gwasanaeth cofio'r Holocost yma yng Nghaerdydd ddiwedd yr wythnos diwethaf—achlysur hynod urddasol, lle clywsom yn uniongyrchol gan rai pobl sy'n dal yn fyw a oedd yn rhan o'r digwyddiadau brawychus hynny.
Byddwn eisiau gwneud yr hyn a allwn, ond mae'r broblem, fel yr wyf i'n siŵr y byddai arweinydd yr wrthblaid yn ei gydnabod, yn ehangach na Llywodraeth; mae'n fater diwylliannol yn ein cymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae angen cymryd amrywiaeth eang o wahanol gamau gweithredu i wneud yn siŵr nad ydym byth—nad ydym byth—yn derbyn bod pobl a ddioddefodd y digwyddiadau ofnadwy hynny yn cael eu hanghofio nac, ar y gwaethaf, yn cael eu beio eu hunain am yr hyn a ddigwyddodd.
Rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog; mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb. Nawr, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn dangos pa mor bell y mae angen i ni fynd i sicrhau bod gennym ni, fel cymdeithas, ddealltwriaeth gadarn o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Holocost. Rydym ni i gyd wedi ein rhwymo gan gyfrifoldeb i sicrhau bod hynny'n digwydd. Canfu gwaith ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Polisi Gwrth-Semitiaeth bod chwiliadau ar-lein yn chwilio am wybodaeth bod yr Holocost yn ffug yn cynyddu gan tua 30 y cant bob blwyddyn ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, a bod chwiliadau gwrth-Semitiaeth yng Nghymru yn uwch nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni hefyd wedi gweld nifer y troseddau casineb a ysgogwyd gan hiliaeth yn cynyddu yma yng Nghymru hefyd. Rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno â mi mai ymwybyddiaeth ac addysg yw'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â hyn. Felly, a ydych chi'n ffyddiog bod digon o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu am yr Holocost a chanlyniadau hil-laddiad crefyddol neu ethnig yng nghwricwlwm newydd Cymru?
Rwy'n credu bod dealltwriaeth dda o'r pwyntiau hynny ymhlith y bobl hynny sy'n gyfrifol am lunio'r cwricwlwm newydd. Yn y gwasanaeth hwnnw a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Gwener, ymhlith rhannau mwyaf emosiynol y gwasanaeth oedd y ddau berson ifanc o Gymru a oedd wedi ymweld ag Auschwitz yn rhan o raglen sy'n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru ac a ddaeth yn ôl i gyfleu i'r gweddill ohonom ni y gwersi yr oedden nhw'n teimlo eu bod wedi eu dysgu, ac i ddweud wrthym hefyd sut yr oedden nhw'n defnyddio'r gwersi hynny i siarad â phobl ifanc eraill yn eu grŵp oedran eu hunain ac yn eu sefydliadau eu hunain am yr effaith yr oedd y profiad hwnnw wedi ei chael arnyn nhw.
Bydd pobl eraill, mi wn, o gwmpas y Siambr, sydd wedi gwneud yr un ymweliad; fe wnes i hynny fy hun rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn brofiad llethol mewn llawer o ffyrdd; roedd yn anodd iawn ystyried hyd yn oed natur yr hyn yr oeddech chi'n ei weld o'ch blaen a cheisio gwneud synnwyr o'r hyn yr oeddech chi'n ei weld ac i feddwl am ba wersi y mae angen i ni i gyd eu dysgu ohono. Mae gwneud yn siŵr bod gennym ni bobl ifanc yng Nghymru sy'n parhau i wneud hynny ac i helpu'r gweddill ohonom ni i ddysgu'r gwersi hynny, rwy'n credu, yn dangos y ffordd y cymerir y pethau hyn o ddifrif yn y system addysg yng Nghymru ac yn ein penderfyniad y bydd hynny'n parhau i ddigwydd.
Wrth gwrs, gan fod y rhai a oroesodd yr Holocost sy'n fyw heddiw yn brin, mae'n ddyletswydd arnom ni i barhau i addysgu ein cenedlaethau iau i fod â'r ddealltwriaeth fwyaf sylfaenol hyd yn oed o'r digwyddiadau hynny ac i gefnogi digwyddiadau coffáu a gynhelir ledled Cymru i hybu ymwybyddiaeth. Ac fel gwleidyddion, mae gennym ni gyfrifoldeb i ddangos arweiniad ar y mater hwn, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw rhethreg gwrth-Semitiaeth yn cael ei normaleiddio mewn cymdeithas ac mae'n rhaid i ni wneud ein gorau glas i roi terfyn ar adolygiadaeth o'r Holocost. Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried ar y cyd gyd-destun sut yr ydym ni'n trafod gwrth-Semitiaeth er mwyn osgoi gwaethygu'r broblem hon ymhellach, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno a'r safbwyntiau hyn, Prif Weinidog. A allwch chi felly, amlinellu pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi digwyddiadau coffáu a gynhelir ledled Cymru nawr ac yn y dyfodol ac ymrwymo i sicrhau y bydd adnoddau priodol ar gael i alluogi'r rhain i barhau i gael eu cynnal?
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ddewis defnyddio ei gwestiynau y prynhawn yma ar gyfer y mater pwysig iawn hwn a gwneud hynny ar yr union adeg y mae'r digwyddiadau coffáu hynny ledled Cymru wedi cael eu cynnal dros y penwythnos diwethaf hwn? Mae gennym ni adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn eu neilltuo i gynorthwyo yn hynny o beth. Byddwn yn sicr yn dymuno parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Byddaf yn meddwl yn ofalus am y pwyntiau y mae wedi eu gwneud yn ei gyfraniad olaf yn y rhan hon o'n trafodion y prynhawn yma, ac mae rhai o'r pethau y mae Paul Davies wedi eu dweud yn adleisiau o'r cyfraniad a glywsom ddydd Gwener gan oroeswr y profiad hwnnw o'r Holocost, pan heriodd pawb a oedd yn y gwasanaeth hwnnw i wneud y pethau y mae angen i unigolion eu gwneud i wneud yn siŵr bod yr atgofion hynny yn cael eu cadw yn fyw, bod y seremonïau yr ydym ni wedi eu sefydlu yn parhau a'n bod ni'n gallu dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan esbonio i'r rhai a gafodd eu heffeithio'n uniongyrchol gan y pethau hyn sut yr ydym ni'n parhau i dystiolaethu i'w dioddefaint.
Arweinydd grŵp UKIP—Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae cynllunio yn fater dadleuol yn aml. Un o'r pethau yr ydych chi wedi ei wneud wrth ffurfio eich Llywodraeth yw symud cynllunio i'r adran llywodraeth leol a thai. Rwy'n credu bod y cam hwnnw yn beth da yn ddamcaniaethol: i gael yr un Gweinidog yn gyfrifol am dai, am lywodraeth leol ac am gynllunio. Y gobaith yw y gallai hyn arwain at ddull mwy cydgysylltiedig. Nawr, tybed a yw'r cam hwn yn arwydd bod eich Llywodraeth yn credu bod yn rhaid i'r broses gynllunio yng Nghymru fod yn fwy ymatebol i ddymuniadau pobl leol?
Wel, Llywydd, mae Gareth Bennett yn iawn wrth ddweud mai diben rhoi llywodraeth leol, cynllunio a thai yn yr un portffolio yw gwneud popeth a allwn i wneud y pethau hynny'n fwy cydgysylltiedig a gwneud y system gynllunio yn fwy effeithiol o ran cyflawni rhai o'n prif uchelgeisiau polisi yma yng Nghymru, gan gynnwys y ddarpariaeth o dai newydd a fforddiadwy, a dyna, yn wir, yw'r sail i'r penderfyniad i ddod â'r materion hynny ynghyd mewn un portffolio.
Gwelaf fod angen i chi wneud pethau yn fwy effeithiol o ran eich amcanion fel Llywodraeth. Weithiau, gallai hynny achosi gwrthdaro gyda'r angen i fod yn ymatebol i farn y cyhoedd. Felly, i edrych ar achos perthnasol o hynny a gododd yn ddiweddar—un o blith llawer y gallwn eu codi—mae gennym ni ddatblygiad fferm wynt Hendy a gynigiwyd ar gyfer ardal y canolbarth ger Llandrindod, fferm wynt o gryn faint a wrthodwyd gan bobl leol a gyflwynodd gannoedd o wrthwynebiadau i'r cynllun. Fe'i gwrthodwyd hefyd gan Gyngor Sir Powys, a bleidleisiodd yn erbyn y cynllun hefyd, ac, yn ogystal, gwnaeth yr arolygydd cynllunio ddatganiad yn erbyn y cynllun pan gyhoeddodd ei adroddiad. Mae'n ymddangos yn rhyfedd, felly, o ystyried y gwrthwynebiad hwn o bron bob tu, bod eich Llywodraeth Cymru chi wedi bod yn ceisio gorfodi'r datblygiad hwn i ddigwydd. Nawr, nid wyf i'n gofyn i chi wneud sylwadau ar yr achos penodol hwn, ond a ydych chi'n credu ei bod hi'n ddoeth yn y dyfodol i'ch Llywodraeth wneud penderfyniadau a allai gael effaith amgylcheddol enfawr ar ardal leol ac sy'n ymddangos fel bod yn gwbl groes i ddemocratiaeth leol?
Wel, mae'r Aelod yn iawn, nid wyf i'n mynd i wneud sylwadau ar yr achos unigol. Mae pwynt pwysig sy'n sail i'r hyn y mae'n ei ddweud, sef bod unrhyw un o'r materion hyn yn gydbwysedd rhwng llawer o wahanol ffactorau sydd ar waith. Bwriedir i'r broses gynllunio geisio sicrhau'r cydbwysedd hwnnw, ond bydd gan unrhyw berson neu grŵp buddiant sy'n cymryd rhan mewn unrhyw enghraifft benodol safbwyntiau cryf. Yn y pen draw, mae'n rhaid cysoni'r pethau hyn ac maen nhw'n cael eu cysoni mewn penderfyniad penodol yn y pen draw. Ni fydd pawb yn cytuno â hynny, mae'n amhosibl dychmygu y bydden nhw, ond credaf fod y polisi cynllunio sydd gennym ni yng Nghymru a'r polisïau a adnewyddwyd yn ddiweddar gan fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, pan roedd hi'n gyfrifol am y mater hwn, yn cynnig y cyfle gorau i ni wneud yn siŵr bod y broses yn gallu clywed gan bawb sydd â buddiant yn y mater, i bwyso a mesur y gwahanol ganlyniadau a geisir, ac yna gwneud penderfyniad yn y pen draw i ganiatáu i fater gael ei ddatblygu.
Rwy'n credu, Prif Weinidog, wrth gwrs, yn ddamcaniaethol, eich bod chi'n iawn, mae angen cydbwysedd, ond nid wyf i'n siŵr faint o gydbwysedd a fu yn yr achos penodol hwn. Wrth gwrs, nid ydym ni o reidrwydd yn ystyried yr achos hwnnw yn unig. Ond rwyf yn meddwl bod problem gyda democratiaeth leol yn y fantol yn y fan yma, ac rwy'n teimlo bod pobl sy'n byw ger Hendy angen mwy na geiriau calonogol; mae'n rhaid iddyn nhw deimlo, mewn gwirionedd, bod Llywodraeth Cymru yn debygol o wrando arnyn nhw a gwrando ar eu pryderon. Wrth gwrs, safbwynt UKIP yw ein bod ni'n cefnogi refferenda lleol ar gyfer penderfyniadau cynllunio mawr fel bod trigolion lleol yn cael y gair olaf.
A ydych chi'n credu, os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r cynllun tyrbin hwn, y bydd y trigolion yn yr Hendy, ac mewn achosion damcaniaethol eraill lle ceir materion cynllunio tebyg—a ydych chi wir yn credu eu bod nhw'n mynd i gredu bod Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw? A ydych chi'n meddwl y byddai pobl mewn unrhyw le arall yng Nghymru sy'n wynebu problemau cynllunio yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw?
Bydd unrhyw Aelod etholaeth o'r Cynulliad hwn yn gyfarwydd iawn ag achosion yn eu hetholaethau eu hunain lle bydd pobl â safbwyntiau cryf a gwahanol safbwyntiau am geisiadau cynllunio penodol yn dod i rannu'r safbwyntiau hynny gyda chi. Mae pobl y mae eu safbwyntiau yn ennill y dydd yn gadael yn teimlo bod y system wedi gweithio'n dda iawn a bod eu lleisiau wedi cael eu clywed. Mae pobl nad yw eu safbwyntiau ar yr ochr fuddugol yn tueddu i adael yn teimlo nad yw'r system wedi darparu'r hyn yr oedden nhw'n gobeithio ei gael ganddi. Mae hynny'n anochel pan fydd gennych chi faterion y mae gan bobl safbwyntiau cryf ond gwahanol yn eu cylch.
Mae'r system sydd gennym ni yn un sydd â gwiriadau cydbwysedd priodol ynddi sy'n ceisio rhoi cyfle i'r holl bobl hynny â safbwyntiau cryf gael gwrandawiad i'r safbwyntiau hynny, sy'n cymryd cyngor arbenigol i ystyriaeth ochr yn ochr â'r holl bethau hynny. Byddai'n llawer gwell gen i pe byddem ni'n ymdrin â'r materion hyn yn y modd gofalus ac ystyriol hwnnw, na chael cyfres o refferenda ledled Cymru lle byddai canlyniad o bopeth i'r buddugwr yn gadael hyd yn oed mwy o bobl wedi digalonni â'r broses na'r system yr ydym ni wedi ei harchwilio hyd yma y prynhawn yma.