Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 29 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, taflodd arolwg diweddar gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost oleuni ar y ffaith ysgytwol bod un o bob 20 o bobl yn y DU nad yw'n credu bod yr Holocost wedi digwydd mewn gwirionedd. Yng ngoleuni hyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y rhoddir sylw i'r gwadiad hwn a chyffredinrwydd gwrth-Semitiaeth, a'n bod ni'n gweithio i gadw cof arswydus yr Holocost yn berthnasol fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o hanes?