Contractau Mentrau Cyllid Preifat

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 29 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:11, 29 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae 23 o gontractau menter cyllid preifat hanesyddol gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r taliad gwasanaeth blynyddol ar gyfer y cynlluniau hyn yn dod i gyfanswm o oddeutu £105 miliwn. Mae'n rhaid i'r cynlluniau hyn fod yn destun adolygiad rheolaidd, a bydd trefniadau ar gyfer yr adolygiad hwnnw yn cael eu nodi yn fuan.