1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Ionawr 2019.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gontractau PFI gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru? OAQ53277
Llywydd, mae 23 o gontractau menter cyllid preifat hanesyddol gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r taliad gwasanaeth blynyddol ar gyfer y cynlluniau hyn yn dod i gyfanswm o oddeutu £105 miliwn. Mae'n rhaid i'r cynlluniau hyn fod yn destun adolygiad rheolaidd, a bydd trefniadau ar gyfer yr adolygiad hwnnw yn cael eu nodi yn fuan.
Mae hwn yn fater yr wyf i wedi ei godi yn rheolaidd gyda'r Prif Weinidog yn ystod ei amser fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Mae cynlluniau menter cyllid preifat yn ddrud ac yn wastraff arian cyhoeddus, ac yn cymryd arian allan o refeniw. A wnaiff y Prif Weinidog gynnal dadansoddiad o gost a budd ar gyfer yr holl gynlluniau y telir amdanynt ar hyn o bryd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru a ariennir gan y Cynulliad, ac yna ystyried defnyddio buddsoddi i arbed i brynu'r rhai y byddai'n fuddiol gwneud hynny, sef y mwyafrif ohonynt yn ôl pob tebyg yn fy marn i?
Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna ac am y cyngor rheolaidd y mae wedi ei roi ar y mater hwn—cyngor sydd, fel y mae'n gwybod, yn cyd-fynd â'r dull y mae Llywodraethau Cymru olynol wedi ei fabwysiadu ers datganoli. Yng Nghymru, mae dinasyddion yn talu tua £40 y pen bob blwyddyn o ganlyniad i gynlluniau menter cyllid preifat, ac mae oddeutu un rhan o bump o'r hyn y mae'n rhaid i ddinasyddion mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ei dalu.
Rwy'n cytuno â'r hyn y mae Mike Hedges wedi ei ddweud, Llywydd—y dylai fod adolygiad o gynlluniau menter cyllid preifat hanesyddol. Yn fuan, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at yr holl awdurdodau contractio yng Nghymru i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, a'i fod yn digwydd bob blwyddyn. Yn y lle cyntaf, cyfrifoldeb yr awdurdodau contractio hynny yw adolygu'r contractau a gweld lle allai fod cwmpas posibl i wneud arbedion ar eu taliadau gwasanaeth blynyddol. Er mwyn cymell yr arfer hwnnw, y polisi y byddwn ni'n ei ddilyn fydd bod yr awdurdod hwnnw'n gallu cadw unrhyw arbedion y mae'n ei gynhyrchu yn y ffordd honno.
Mewn achosion lle mae'r awdurdod yn ystyried terfynu'r contract yn gynnar, yna bydd angen deialog rhwng yr awdurdod hwnnw a Llywodraeth Cymru. Efallai y byddwn yn gallu edrych ar fesurau fel ein cronfa buddsoddi i arbed i'w cynorthwyo i wneud yn union hynny.
Prif Weinidog, rwy'n fwy na pharod i gefnogi Mike Hedges yn ei alwad am yr adolygiad hwnnw o wariant ar brosiectau menter cyllid preifat yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod rhai o'r mentrau cyllid preifat cynnar, yn arbennig, yn gostus iawn, ac rydych chi wedi cyfeirio at y ffigur cost o £100 miliwn y flwyddyn—£105 miliwn y flwyddyn—y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi ei ddarparu hefyd.
Er fy mod i'n gwerthfawrogi bod eich Llywodraeth yn sicr yn amheus am fentrau cyllid preifat, rydych chi'n cefnogi'r model buddsoddi cydfuddiannol. A allwch chi ddweud wrthym ni pa wersi a ddysgwyd o rai o'r problemau hynny gyda'r prosiectau menter cyllid preifat cynnar i wneud yn siŵr nad yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector preifat i ddarparu mentrau gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn wynebu, dros y tymor hwy, rhai o'r problemau a wynebodd mentrau cyllid preifat yn y gorffennol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am y diddordeb y mae wedi ei gymryd yn y model buddsoddi cydfuddiannol, sydd yn wir wedi ei gynllunio i wneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu'r gwersi o'r gorffennol. Mae'n cynnwys y gorau o fodel dim dosbarthu yr Alban, a nodais gyda diddordeb, Llywydd, fod Prif Weinidog yr Alban wedi cyfeirio at ddatblygu eu syniadau ar sail ein model ni wrth iddyn nhw fynd ati i fuddsoddi ymhellach yn y prosiectau seilwaith yn yr Alban.
Felly, ni fydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, i ariannu gwasanaethau meddal, fel glanhau ac arlwyo, ac roedden nhw'n aml wrth wraidd y contractau rhad ac anhyblyg yn y model menter cyllid preifat hanesyddol, ac ni fydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn cael ei ddefnyddio i ariannu offer cyfalaf ychwaith. Bydd cyfarwyddwr budd y cyhoedd yn cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru i reoli cyfranddaliad cyhoeddus, yr ydym ni'n bwriadu ei gymryd ym mhob cynllun model buddsoddi cydfuddiannol, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn rhan o unrhyw adenillion o'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud. Yn ogystal â bod o ddiddordeb i Brif Weinidog yr Alban, Llywydd, mae'r Cenhedloedd Unedig, sydd wedi llunio casgliad o gynlluniau cyllid arloesol yn ddiweddar—cynlluniau pobl yn gyntaf yw ei enw—yn tynnu sylw at y model buddsoddi cydfuddiannol fel esiampl o ffordd o wneud pethau sy'n hybu llesiant, gwerth am arian a thryloywder yn y ffordd y mae'r cynllun wedi ei strwythuro.