Cael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 29 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:20, 29 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch cyfnod hir y Bil hwn. Dyna pam yr ydym ni'n benderfynol y bydd yn cyrraedd y llyfr statudau yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rydym ni'n gweithio'n galed. Rydym wedi bod yn ei drafod eto yr wythnos hon i wneud yn siŵr ein bod mewn sefyllfa i gyflwyno'r Bil cyn gynted ag y gallwn, ac yn sicr mewn amser da i wneud yn siŵr ei fod yn cwblhau ei hynt drwy'r Cynulliad hwn.