Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 29 Ionawr 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ond rwy'n siŵr y bydd yn deall bod rhai ohonom ni'n rhwystredig braidd gyda'r amserlen, o gofio bod 15 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers i'r ddeddfwrfa hon fynegi mewn egwyddor gyntaf ei dymuniad i ddiddymu'r amddiffyniad hwn na ellir ei gyfiawnhau. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i ni y bydd digon o amser yn oes y Cynulliad hwn i'r ddeddfwriaeth hanfodol hon ar gyfer plant Cymru gael ei phasio o'r diwedd?