Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 29 Ionawr 2019.
Llywydd, nid wyf mewn sefyllfa i gyhoeddi polisi newydd wrth ateb cwestiwn, wrth gwrs. Ond mae'r achos a godwyd gan yr Aelod yn bryderus, ac rwy'n siŵr, pe byddai hi'n ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog iechyd, y byddai ef yn sicr yn barod i ystyried manylion yr achos penodol hwn ac unrhyw faterion polisi sy'n deillio ohono.