Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 29 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd. Ceir dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yfory, mae'r Llywodraeth yn ceisio trefnu dadl ar y rhagolygon am gytundeb Brexit sy'n dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin. I alluogi hyn i ddigwydd, byddaf yn awgrymu cynnig i atal y Rheolau Sefydlog angenrheidiol fel yr eitem olaf o fusnes ar gyfer heno. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.