– Senedd Cymru am 2:23 pm ar 29 Ionawr 2019.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Ceir dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yfory, mae'r Llywodraeth yn ceisio trefnu dadl ar y rhagolygon am gytundeb Brexit sy'n dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin. I alluogi hyn i ddigwydd, byddaf yn awgrymu cynnig i atal y Rheolau Sefydlog angenrheidiol fel yr eitem olaf o fusnes ar gyfer heno. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Efallai fod yr Aelodau wedi sylwi ei bod yn Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel heddiw, ac, fel y gwyddom ni oll, mae peryglon yn ymguddio ar-lein, i’n pobl ifanc yn enwedig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wnaed gan y Gweinidog Addysg ac unrhyw Weinidogion eraill yn y Llywodraeth ar ddiogelwch pobl ifanc ar y rhyngrwyd. Ac a wnewch chi ymuno â mi drwy roi ar gofnod eich bod yn cydnabod y gwaith da sy'n cael ei wneud gan Childnet, Internet Watch Foundation ac eraill wrth ddwyn y mater hwn i'n sylw ni unwaith eto eleni?
A gaf i alw hefyd am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cysylltiad ag iechyd meddwl amenedigol? Adroddwyd imi fod nifer yr unigolion sy'n gweithio yn y tîm iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd wedi gostwng yn ystod y misoedd diwethaf, ac, o ganlyniad i hynny, mae'r gallu i ymweld â’r tîm iechyd meddwl amenedigol wedi ei gyfyngu cymaint fel mai dim ond menywod â babanod hyd at chwe wythnos oed sy’n gallu gweld y tîm hwnnw ar hyn o bryd. Yn amlwg, nid yw hynny'n sefyllfa dderbyniol, a gwn nad yw hynny'n fwriad gan y Llywodraeth ychwaith. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd inni allu cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog iechyd naill ai drwy ddatganiad ysgrifenedig neu ddatganiad llafar yn y Siambr hon i ddweud wrthym beth sy’n cael ei wneud i wella gallu'r tîm hwnnw fel y bydd mamau yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn yn ystod adeg enbyd iawn, yn aml iawn, o’u bywydau.
Diolch am godi'r ddau fater pwysig y prynhawn yma. Yn sicr, o ran diogelwch ar y rhyngrwyd, gwn y byddai'r Gweinidog Addysg yn hapus i ddarparu datganiad, a byddaf yn sicr yn rhoi ar gofnod bod y Llywodraeth yn diolch i sefydliadau megis Childnet ac Internet Watch Foundation am y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud yn y maes hwn, ac wrth gwrs mae gennym ddadl fer ar ddiwedd cyfarfod llawn yfory, sydd wedi cael ei chyflwyno gan Bethan Sayed, a bydd gennym gyfle i edrych ar faterion sy'n ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd yno hefyd.
Ynghylch y mater iechyd meddwl amenedigol, mae'n amlwg bod hwn yn fater pwysig iawn, a gwn y bydd y Gweinidog iechyd yn falch o ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ei hangen arnoch.
Trefnydd, rwyf wedi codi'r mater o anghydraddoldeb cyflog ar gyfer hyfforddedigion histopatholeg meddygol yng Nghymru yn y Siambr hon sawl gwaith. Byddwch yn cofio fy mod i wedi codi'r mater hwn mewn cwestiwn ysgrifenedig yn ôl ym mis Tachwedd 2016, ac mae’r mater yn dal heb gael ei ddatrys. Yn ystod y pum mlynedd o hyfforddiant fel meddygon rhwng Hyfforddeion Arbenigol blwyddyn 1 a Hyfforddeion Arbenigol blwyddyn 5, bydd meddygon histopatholeg hyfforddedig yn Lloegr wedi ennill £60,000 yn fwy na'u meddygon cyfatebol yng Nghymru. Nawr, rwyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod meddygon sy'n penderfynu hyfforddi yng Nghymru yn haeddu cydraddoldeb â meddygon cyfatebol dros y ffin sy’n gwneud yr un hyfforddiant, ac sy’n gwneud yr un gwaith. Mae hyfforddeion wedi dweud wrthyf eu bod nhw’n teimlo, drwy benderfynu gweithio yng Nghymru, eu bod yn cael eu cosbi'n ariannol am y penderfyniad hwnnw. Mae’r gweithlu wedi ei ddadrithio ac wedi digalonni oherwydd y ffordd y maen nhw’n cael eu trin a’u hanwybyddu gan Lywodraeth Cymru.
Rydym ni’n clywed am yr angen i ddenu meddygon i Gymru oherwydd prinder yn aml, ac eto, dyma sut yr ydym ni’n trin y rhai sy'n dewis astudio yma. Er eu bod nhw’n ymwybodol o'r bwlch, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud dim byd o gwbl am y sefyllfa. Mae hynny'n warthus. Yn ôl ym mis Hydref 2018, pan godais y mater hwn ddiwethaf, dywedodd arweinydd y tŷ ar y pryd y byddai’r Gweinidog iechyd yn barod i gyflwyno datganiad ar y mater. Mae’r rhwystredigaeth ymhlith yr hyfforddeion yn amlwg, ac, wedi gorfod disgwyl am fwy na dwy flynedd a hanner am weithredu, rwyf yn awgrymu yn barchus bod angen cymryd camau arnom cyn gynted â phosib. A gaf i ofyn, felly, i'r Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, ar y mater hwn, a chymryd camau drwy roi hyfforddeion meddygol Cymru ar sail gyfartal â'r rhai yn Lloegr?
Mae'r mater hwn ynghlwm yn llwyr â thrafodaethau contract meddygon sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a gwn fod y Gweinidog iechyd yn cwrdd â Chymdeithas Feddygol Prydain yn yr ychydig wythnosau nesaf a byddwn yn sicr yn disgwyl i'r mater hwn gael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw.
Newyddion da iawn am gyhoeddiad y rownd gyntaf o arian gyda llwyddiant newydd Cymru ynghylch y dreth dirlenwi, ond a gawn ddatganiad ynglŷn â’r hyn y gellid ei wneud i annog yn weithredol yr ardaloedd hynny sydd o fewn y cylchoedd pum milltir hynny o amgylch ardaloedd tirlenwi nad ydyn nhw wedi gwneud cais am arian eto, gan gynnwys lleoedd yn fy ardal i fy hun fel Llanharan, Llanhari, Cefncribwr y Goetre-hen ac eraill? Ac, ar y mater hwnnw, mae'n dda gweld bod Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy'n gweinyddu'r gronfa ar ran Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn nigwyddiad codi arian Chris Elmore a minnau ym Maesteg Celtic ar 15 Mawrth, felly gall pobl ddod yno.
A gawn ni ddadl hefyd ar sut y gallwn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gadael Caerdydd i fynd yn eu holau i'r Cymoedd ar ôl gweld digwyddiadau yn hwyr yn y nos? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae unrhyw un sy'n byw ym Mhen-coed sydd wedi bod i Opera Cenedlaethol Cymru, neu finnau ar ôl mynd i weld Stiff Little Fingers yn Tramshed neu ble bynnag, mae’n rhaid inni ddal y trên am 10:30, neu’n gynharach weithiau, i fynd adref. Wel, mae hynny’n golygu, yn blwmp ac yn blaen, mai’r dewis yw gadael y cyngerdd yn gynnar neu gael tacsi neu ffrind i fynd â chi adref. Nid yw'n ddigon da, pan rydych chi’n gallu mynd i Fryste am 01:30 yn y bore, neu Abertawe am 01:20 yn y bore, neu Bontypridd am 11:30, ond am 10:30, mae’n rhaid ichi adael i fynd i unrhyw le ar y llinell i Faesteg. Felly, a gawn ni ddadl ar hynny? Oherwydd, mae ymgyrch Llywodraeth Cymru i gael pobl allan o'u ceir a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ganmoladwy; mae angen inni wneud i hynny ddigwydd gydag amserlennu.
Diolch am godi'r materion hyn ac, yn sicr, mae'n gyffrous nawr ein bod ni'n gallu gweld ffrwyth llafur y dreth gwarediadau tirlenwi yn elwa ar gynlluniau cymunedol yn yr ardaloedd sy'n gymwys. Fel y gwyddoch, fe gyhoeddwyd y cyfnod cyntaf yr wythnos diwethaf, ond mae'r cais am yr ail rownd o gyllid newydd gau, felly byddwn ni'n gwneud cyhoeddiadau am hynny maes o law. Ac fe gynyddodd nifer y ceisiadau a gawsom yn yr ail rownd hwnnw, ac rwyf yn sicr yn gobeithio y bydd cynnydd yn rowndiau'r dyfodol hefyd. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn monitro'r ceisiadau sy'n cael eu gwneud ac maen nhw'n sicr yn targedu'r ardaloedd cymwys hynny lle bu llai o geisiadau ym mhob un o'r cylchoedd cyllido, ar y cyd â'r cynghorau gwirfoddol sirol lleol. Felly, yn sicr, bydd cyfathrebiadau yn mynd allan i'r ardaloedd hynny, er mwyn sicrhau bod y cymunedau a all fanteisio fwyaf ar y cynllun hwn yn elwa arno. A gwn y bydd y Gweinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yn cyflwyno datganiad ar y rheilffyrdd yn fuan iawn, felly bydd cyfle i archwilio rhai o'r materion yr ydych wedi eu disgrifio.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog iechyd am ei ddatganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Gweinidog am gwrdd â mi ac Aelodau eraill o’r Cynulliad i drafod hyn, ac rwyf hefyd wedi cael sgyrsiau gonest a defnyddiol gyda chadeirydd y bwrdd iechyd. Fodd bynnag, a gawn ni ddatganiad llafar yn amser y Llywodraeth fel y gall Aelodau'r Cynulliad graffu ar yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn fater mor bwysig i'm hetholwyr, a ddylai fod yn gallu disgwyl gwasanaethau mamolaeth diogel, o ansawdd da?
Yn ail, amser cinio heddiw, euthum i ddigwyddiad ymgyrch am well cyflog Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, a chefais fraw pan ganfûm y gall pobl ar gredyd cynhwysol golli allan ar wythnos o rent yn ystod 2019-20. Mae hyn oherwydd y ffordd y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a landlordiaid cymdeithasol yn cyfrifo nifer yr wythnosau yn y flwyddyn honno mewn gwahanol ffyrdd, oherwydd bod gan y flwyddyn ariannol 53 dydd Llun. Nawr, efallai mai’r gwir effaith fydd, os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, eich bod chi’n colli wythnos o rent, a gallai hyn gael sgil-effeithiau difrifol ar gyfer tenantiaid Trivallis, er enghraifft, landlord cymdeithasol yn fy etholaeth i, sy’n talu eu rhent yn wythnosol. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hymateb i hyn a sut y mae hi'n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i wneud yn siŵr nad yw pobl ar gredyd cynhwysol yn colli allan?
Diolch am godi'r ddau fater hyn. O ran y cyntaf, gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf, gwn, ar hyn o bryd, ein bod ni'n disgwyl am yr argymhellion llawn yn yr adroddiad llawn, sy'n ofynnol yn y gwanwyn, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi ymrwymo i ddiweddaru'r Aelodau gyda mwy o wybodaeth ar ôl derbyn yr adroddiad hwnnw a'r argymhellion hynny.
O ran yr ail fater, credyd cynhwysol, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon ynghylch diffygion sylfaenol credyd cynhwysol dro ar ôl tro, ac mae hyn yn enghraifft arall o sut y mae'n siomi pobl yn ein cymunedau yng Nghymru. Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i godi'r mater hwn gyda'r Gweinidog dros gyflogaeth yn Llywodraeth y DU.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gynigion i lacio deddfau cynllunio er mwyn caniatáu i fastiau ffonau symudol talach gael eu hadeiladu yng Nghymru? Cafodd cyfyngiadau ar uchder mastiau eu llacio yn Lloegr a'r Alban yn 2016 fel nad yw mastiau hyd at 25m yn gorfod mynd drwy'r broses gynllunio lawn. Addawodd Llywodraeth Cymru dros ddwy flynedd yn ôl y byddai'n edrych ar y dystiolaeth cyn penderfynu a ddylid cynyddu'r terfyn yng Nghymru o'r 15m presennol. Mae'r diffyg signal ffonau symudol yn achosi llawer o rwystredigaeth a dicter i bobl mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y byddant yn debygol o wneud penderfyniad ar y mater pwysig hwn i wella signal ffonau symudol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch am godi'r mater hwn. O ran newidiadau i'r hawliau datblygu a ganiateir, fel y cydnabuwyd gennych yn eich cwestiwn, yn sicr mae angen dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam y cyhoeddwyd 'Cynllunio ar gyfer Telathrebu Symudol: Asesiad o Hawliau Datblygu a Ganiateir yng Nghymru' ym mis Ionawr y llynedd, i lywio'r gwaith o adolygu'r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer telathrebu. Disgwylir i ddiwygiadau i'r hawliau sy'n ymwneud â thelathrebu ddod i rym tua diwedd y gwanwyn eleni. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod, yn fy marn i, nad yw mastiau talach yn darparu un ateb i'r broblem o wella gwasanaeth symudol gan ei wneud ar gael ledled Cymru, oherwydd, wrth gwrs, bod ein topograffeg a dosbarthiad y boblogaeth yn golygu bod defnyddio ffonau symudol ledled Cymru yn heriol iawn, ac rwyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn cydnabod hynny wrth inni deithio o amgylch y wlad.
Rwyf yn cytuno â’r pwyntiau a wnaed yn gynharach ynghylch gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac rwyf yn cefnogi'r galwadau am ddatganiad. Rwyf hefyd yn cytuno â’r pwynt a wnaed yn gynharach ynghylch trenau i'r Cymoedd yn hwyr yn y nos, a hoffwn gefnogi'r datganiad hwnnw hefyd.
Ond rwyf eisiau dod â mater arall sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus i’ch sylw, a hynny yw digwyddiad a ddigwyddodd nos Wener ddiwethaf yng ngorsaf Pontypridd. Roedd grŵp o fenywod yn aros ar y platfform am eu trên i fynd adref i'r Rhondda, pan ddaeth criw o tua 30 neu fwy o bobl ifanc atyn nhw. Honnir bod y criw wedi dychryn, aflonyddu a sarhau’r grŵp bach hwn o fenywod ar y platfform, ac, ar un adeg, dywedir eu bod nhw wedi amgylchynu un fenyw a’u bod nhw wedi symud er mwyn ei gwthio hi tuag at y cledrau wrth i’r trên agosáu. Nawr, dywedir bod y bygythiadau a’r ymddygiad difrïol wedi parhau ar y trên a arweiniodd at sbwriel yn cael eu taflu ar y menywod, ac ni stopiodd hyn nes i’r bobl fynd oddi ar y trên. Nawr, dychrynais o glywed am y digwyddiad hwn y bûm yn ei drafod yn fanwl ddoe gyda gweithiwr pryderus o Drafnidiaeth Cymru. Rwyf wedi ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru ynglŷn â hyn, ond byddwn yn ddiolchgar pe byddem ni’n gallu cael datganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth i adael inni wybod pa fesurau trafnidiaeth y gellir eu cymryd i wella diogelwch teithwyr, yn ogystal â gweithwyr trenau, yn ystod gwasanaethau yn hwyr yn y nos.
Hoffwn hefyd godi’r mater o ddigartrefedd gyda chi unwaith eto. Ers imi godi'r mater hwn gyda chi yn y cyfarfod llawn yr wythnos diwethaf, mae cynghorydd Torïaidd yng Nghaerdydd sydd wedi dod o dan feirniadaeth sylweddol—ac yn briodol felly, yn fy marn i—am sefyll wrth ymyl rhai pebyll yng nghanol y ddinas a galw am iddyn nhw gael eu rhwygo i lawr gan Gyngor Caerdydd. Nawr, cafodd y farn hon rywfaint o gefnogaeth gan yr aelod cabinet Llafur dros dai, Lynda Thorne, a ddywedodd,
Mae angen i'r elusennau sy’n rhoi'r pebyll ddeall eu bod nhw’n rhoi pobl sy'n cysgu allan mewn perygl.
Yr hyn a fethodd y Cynghorydd Kelloway a'r Cynghorydd Thorne â sylweddoli yw, am wahanol resymau, nad yw hosteli yn addas ar gyfer pawb bob amser, a bod y pebyll hyn, yn enwedig mewn tywydd fel hyn, yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth pan nad oes gan rywun unman arall i droi. Felly, rwyf yn eich annog chi i gondemnio beirniadaeth ar unrhyw un sy’n rhoi pebyll i bobl ddigartref, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro safbwynt Llafur ar hyn.
Ac yn olaf, tynnwyd i’m sylw bod UKIP, mae'n debyg, wedi bod yn dosbarthu taflenni ar gytundeb ymadael y Torïaid yn Lloegr sydd tu hwnt, hyd yn oed i’w safonau isel iawn arferol. Ar waelod y daflen hon, ceir paragraff ymfflamychol sy’n dweud,
Byddwn ni’n dosbarthu unrhyw un sy’n barod i bleidleisio o blaid y cytundeb hwn yn fradwr cenedlaethol, neu’n elyn y wladwriaeth—ac rydym ni'n eich gwylio chi.
Ymddengys fod gwersi i'w dysgu o hyd yn sgil marwolaeth drasig Jo Cox AS. Nawr, efallai mai mater sydd wedi digwydd yn Lloegr yw hyn, ac rwyf wedi gofyn i Heddlu Sussex ymchwilio i'r mater, ond mae aelodau o'r blaid hon yn eistedd yn y Siambr hon. Felly rwyf yn eich annog chi i anfon neges gref na fydd iaith o'r math hwn yn cael ei oddef. Ac, ar ben hynny, a gawn ni ddatganiad gan gynrychiolydd y Llywodraeth i annog pobl, os ydyn nhw’n derbyn taflen gan UKIP sy'n cynnwys y bygythiadau hyn, i ddweud wrth yr heddlu oherwydd ni ddylid goddef y math hwn o wleidyddiaeth sy’n seiliedig ar fygythiadau?
Diolch yn fawr iawn. Clywaf cyn-arweinydd UKIP yn gweiddi ‘pathetig’ o'i sedd yn y Siambr, nad yw’n syndod imi, ond rwyf yn condemnio yn llwyr yr hyn a ysgrifennwyd yn y daflen. Mae Leanne Wood yn hollol gywir yn ein hatgoffa ni i gyd am y drasiedi a ddigwyddodd yn gymharol ddiweddar. Ac nid oes lle mewn gwleidyddiaeth ar gyfer iaith ‘bradwyr’ ac iaith sy'n fygythiol ac yn ymfflamychol o gwbl. Felly, byddwn yn sicr yn canmol yr aelod am symud y mater yn ei flaen gyda Heddlu Sussex.
Ac, wrth gwrs, mae Ceidwadaeth dosturiol yn fyw ac yn iach yng Nghaerdydd hefyd, oherwydd, unwaith eto, rydym ni’n credu bod gofyn am i’r pebyll hyn gael eu rhwygo i lawr—rwyf yn credu oedd yr ymadrodd—yn ymateb gwbl amhriodol. Unwaith eto, nid yw hyn yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni’n sôn am bobl ddynol, sydd mewn llawer o achosion, wedi cael y bywydau mwyaf anodd y gellid eu dychmygu, sydd wedi eu cael eu hunain yn y lle hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi sut bynnag y gallwn ni. Rydym ni’n cydnabod bod angen gwahanol fathau o hosteli a mathau gwahanol o letyau oherwydd nid oes un math yn addas ar gyfer pawb. A gwn fod y Gweinidog wedi ateb eich cwestiynau ar hyn yr wythnos diwethaf, ond bydd hi’n cyflwyno datganiad ynglŷn â digartrefedd a chysgu ar y stryd i’r Cynulliad yn amser y Llywodraeth yr wythnos nesaf.
Ac eto, rwyf wedi dychryn yn fawr wrth glywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud am y materion yng ngorsaf Pontypridd. Soniais mewn ymateb i gais am ddatganiad blaenorol y byddai’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yn cyflwyno datganiad ar reilffyrdd, felly gallai hyn fod yn amser priodol i gael y drafodaeth honno gydag ef.
Trefnydd, neu arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, rwyf yn siŵr eich bod wedi eich arswydo gymaint ag yr oeddwn innau ynghylch adroddiadau yn y cyfryngau bod cinio ysgol yn cael ei wrthod i blant oherwydd nad oedd credyd wedi ei roi ar eu cardiau talu mewn pryd. Yn wir, roedd adroddiad am un plentyn a oedd wedi cael ei ginio ysgol, ac wedi mynd at y til i ganfod nad oedd arian ar gael fel y gallai'r plentyn penodol hwnnw gael cinio, a chymerwyd y cinio hwnnw oddi ar y plentyn. Nawr, dyna'r driniaeth fwyaf ofnadwy o unrhyw blentyn yn yr ysgol, ac rwyf yn siŵr y bydd yr unigolyn hwnnw yn cofio'r digwyddiad am gryn amser, os oedd hynny'n wir.
Nawr, rwyf wedi codi hyn o'r blaen—systemau talu heb arian—ac mae'n rhaid imi fod yn deg, bod Cyngor Sir Powys bellach wedi cymryd rhai camau i rybuddio rhieni pan fo eu harian wedi lleihau neu'n rhedeg yn isel iawn. Ond ni allwn glywed straeon fel hyn dro ar ôl tro. Felly, rwyf yn gofyn, arweinydd y tŷ, a allwch gael trafodaeth bellach gyda'r Gweinidog Addysg yr wyf yn gwybod ei fod wedi gweithio ar hyn, i wneud rhagor o waith a darparu addysg bellach i rieni a staff yr ysgol fel nad yw'r sefyllfaoedd hyn yn parhau i ddigwydd.
Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Rwyf eisoes wedi cael rhai trafodaethau gyda'r Gweinidog Addysg ar y mater hwn, a bydd swyddogion yn ymchwilio gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r gymdeithas leol dros arlwyo mewn addysg i weld pa mor eang yw'r mater hwn ac ystyried a oes angen inni ddarparu cyngor ac arweiniad ychwanegol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar sut i weithio gyda theuluoedd, pe byddai'r amgylchiadau hyn yn codi.
Rwy'n credu bod dau amgylchiad gwahanol y gallai teuluoedd ganfod eu hunain ynddynt. Er enghraifft, maen nhw'n anghofio rhoi credyd ar y cerdyn, oherwydd bod bywyd yn brysur ac mae pobl yn anghofio pethau, neu efallai bod teuluoedd mewn trafferthion gwirioneddol ac nad ydyn nhw'n gallu talu. Felly, rwyf yn credu bod gan ysgolion swyddogaeth o ran deall sefyllfa'r teulu hwnnw a gallu cyfeirio at gyngor, neu'n sicr cynnig cysylltu â rhywun yn yr awdurdod lleol pe byddan nhw'n gwybod bod teulu yn ei chael hi'n anodd, a bod cymorth ar gael iddyn nhw.
Ond mae eich pwynt ynghylch peidio â dwyn plant i gyfrif yn un pwysig, oherwydd wrth warthnodi plant mewn unrhyw ffordd oherwydd biliau ysgol heb eu talu, wel, mae hynny'n gwbl annerbyniol.
Rwyf yn galw am ddau ddatganiad Llywodraeth Cymru ffurfiol ar faterion sy’n perthyn i’w gilydd. Mae Cymdeithas Polio Prydain yn dathlu ei phen-blwydd yn bedwar ugain y mis hwn—Ionawr 2019—ac rwyf y galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chymorth ar gyfer y 12,000 o bobl yr amcangyfrifir yng Nghymru eu bod wedi cael polio, a’r nifer o rai eraill hefyd efallai nad oedden nhw’n gwybod bod ganddyn nhw polio.
Rwyf hefyd yn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Gymdeithas Polio Prydain am ofyn imi fod yn noddwr iddyn nhw yng Nghynulliad Cymru. Dri mis yn ôl, gofynnais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch syndrom ôl-polio, gan dynnu sylw at yr angen am well ymwybyddiaeth, gyda 7 y cant yn unig o'r bobl a holwyd yn cydnabod y syndrom o gwbl. Mae’r gymdeithas yn dymuno codi ymwybyddiaeth ymhlith seneddwyr o bob plaid a datblygu’r ymwybyddiaeth hon yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, fel y gwna arweinydd eu grŵp yn y gogledd, Joan Deverell, ac arweinydd eu grŵp yn y de, Coral Williams. Maen nhw’n dweud,
Mae pen y daith bellach yn brofoclyd o agos, ond mae’r ffaith ein bod ni’n dal yn cefnogi 120,000 sy’n byw â Syndrom Ôl-Polio... yn y DU— gan gynnwys y rhai yng Nghymru— yn dangos na fyddwn ni wedi anfon Polio i’r llyfrau hanes mewn gwirionedd nes bydd pob un sydd wedi goroesi Syndrom Ôl-Polio wedi peidio â bod. Mae gan Bolio Prydain wybodaeth flaenllaw sy’n amhrisiadwy o ran sut i drin Syndrom Ôl-Polio; gyda hunanreolaeth ofalus a llwybrau gofal diffiniedig, mae byw’n annibynnol yn bosib.
Fel y dywed eu cadeirydd cenedlaethol yn y DU, dyna anrheg ardderchog fyddai os mai pen-blwydd yr elusen yn bedwar ugain yn 2019 fyddai’r flwyddyn pan fo’r byd yn gweld Polio yn cael ei ddileu, gyda phen y daith bellach o fewn cyrraedd yn ôl pob golwg.
Ac rwyf yn galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Nawr, pan gyfarfûm ag arweinydd grŵp Cymdeithas Polio Prydain yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, rhannodd ei phryderon â mi hefyd am glwstwr o achosion o'r feirws newydd, myelitis llipa, yn Glasgow a'r angen i Gymru baratoi ar gyfer hwn, gan fod rhieni eisoes yn eu holi nhw ynglŷn â'r feirws hwn ac yn codi eu pryderon. Nawr, mae parlys llipa acíwt a myelitis llipa acíwt yn achosi gwendid yn y breichiau, y coesau neu’r wyneb. Yn y gorffennol, cafwyd parlys llipa acíwt oherwydd yr haint poliofirws. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau o gyflyrau niwrolegol acíwt sy’n gysylltiedig â hyn, gyda'r rhan fwyaf o’r achosion ymhlith plant. Mae cynnydd wedi ei gofnodi yn Ewrop ac UDA hefyd. Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr ddatgan digwyddiad cenedlaethol ym mis Tachwedd diwethaf—Tachwedd 2018—i ymchwilio i'r cynnydd ymddangosiadol hwn mewn achosion. Ond nid oedd yr achosion a archwiliwyd yn gysylltiedig â pholio, a hefyd, cafodd achosion posibl eraill eu nodi, gan gynnwys heintiau enterofirws di-bolio. Nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad at unrhyw drafodaeth ar y mater hwn yng Nghymru. O gofio'r pryder cynyddol yn Lloegr, yr Alban, yn Ewrop ac UDA, rwyf yn galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn, a byddem yn sicr yn rhannu'r dyhead hwnnw sydd gan Gymdeithas Polio Prydain o weld diwedd y daith yn cael ei chyrraedd fel yr oeddech chi'n ei disgrifio hi. Gwn y byddwch yn gwneud gwaith rhagorol o ran codi'r mater hwn ymhlith Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr, fel yr ydych yn ei wneud y prynhawn yma.
O ran y clwstwr o achosion o feirws newydd yr ydych wedi siarad amdano, a gaf i awgrymu bod y Gweinidog iechyd yn cael trafodaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio'r mater o ran y ffordd orau i fynd i'r afael â hyn yng Nghymru gan ysgrifennu atoch wedyn gyda chasgliadau'r drafodaeth honno?
A gaf i ofyn i'r Trefnydd drafod gyda’r Gweinidog economi a yw'n bosib cyhoeddi datganiad pellach i’r Cynulliad hwn, mewn datganiad llafar os yw hynny’n bosib, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed bod ffatri Schaeffler yn Llanelli yn mynd i gau? Rwyf yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig ddoe. Ond byddem ni’n gwerthfawrogi datganiad llafar, oherwydd byddwn i, ac Aelodau eraill, rwyf yn siŵr, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli'r ardal honno, yn hoffi gallu gofyn mwy am fanylion y cymorth a fydd yn cael ei ddarparu i’r 220 o weithwyr a'u teuluoedd sy'n wynebu diswyddiadau. Rwyf yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn nad y mathau o swyddi y gallwn ni fforddio i’w colli o Lanelli, neu’n wir, o unrhyw le yng Nghymru, yw’r rhain. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi’r cyfle i holi mwy am fanylion y cymorth a’r gwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r awdurdod lleol a chydag eraill i geisio dod o hyd i gyflogaeth newydd addas, o ran cyfleoedd cyflogaeth, ac ar gyfer unigolion.
Byddwn hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i ofyn i'r Gweinidog pa wersi sydd wedi eu dysgu, efallai, o'r broses hon. A oedd unrhyw beth arall y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi ei wneud drwy weithio gyda'r cwmni hwn, yn ystod cam cynnar efallai, i'w perswadio nhw i aros ac archwilio ymhellach i'r hyn y byddai angen ei wneud mewn amgylchedd ôl-Frexit i weithio gyda chwmnïau rhyngwladol i sicrhau nad yw swyddi o ansawdd yn cael eu colli?
Diolch yn fawr iawn, ac mae'n amlwg bod y newyddion y bydd ffatri Schaeffler yn Llanelli bellach yn cau'n bendant yn hynod annifyr i'r gweithlu a'u teuluoedd ac, yn wir, y cymunedau ehangach yn yr ardal, ac wrth gwrs, mae ein meddyliau yn sicr gyda'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr hyn sy'n ergyd mawr iawn i'r ardal ac i unigolion.
Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gadw swyddi o ansawdd da yn yr ardal. Felly, fel yr ydych yn ei ddweud, rydym wedi cynnull tasglu, a fydd yn parhau i weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a chyda phartneriaid eraill yr ydych yn eu disgrifio i archwilio pob llwybr posibl er mwyn sicrhau potensial gweithgynhyrchu y safle yn y dyfodol ac er mwyn sicrhau hefyd bod gweithwyr Schaeffler yn cael gafael ar becyn cystadleuol o gyngor a sgiliau a chymorth hyfforddiant. Rwyf yn sylweddoli y byddech chi'n hoffi mwy o wybodaeth ar hynny, felly byddaf yn cael sgwrs gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi i ddod o hyd i'r ffordd orau o ddarparu hynny.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, Gweinidog. Yn gyntaf, roeddwn yn falch o noddi lansiad ymgyrch Time For Better Pay Usdaw yn ystod amser cinio er mwyn rhoi terfyn ar dlodi mewn gwaith. Arolygodd Usdaw dros 10,500 o aelodau i ddeall y materion sy'n eu hwynebu nhw o ganlyniad i gyflogau isel, contractau oriau byrrach a gwaith heb sicrwydd. Mae rhai o'r canlyniadau yn yr adroddiad hwn yn eithaf ysgytiol. Er enghraifft, mae dau allan o bob tri gweithiwr yn teimlo'n waeth yn awr nag yr oedden nhw bum mlynedd yn ôl. Mae tri chwarter y gweithwyr yn dibynnu ar fenthyciadau ac yn benthyca i dalu biliau hanfodol. Mae dau allan o bob tri gweithiwr yn dweud bod pryderon ariannol yn effeithio ar eu hiechyd meddwl, ac nid oedd chwech allan o bob 10 gweithiwr yn gallu mynd i ffwrdd ar wyliau y llynedd. A fyddech chi'n gallu cwrdd â mi, Gweinidog, i drafod yr adroddiad hwn? A byddwn yn ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith.
Yn ail, Wythnos Lleoliad Annibynnol yw’r wythnos hon, ac mae'r lleoliadau hyn yn rhoi i artistiaid eu profiad cyntaf o chwarae o flaen cynulleidfaoedd byw, a dyma yw asgwrn cefn y maes cerddorol byw. Mae Le Public Space yng Nghasnewydd yn ganolfan cerddoriaeth a chelfyddydau sydd wedi ei lleoli yng nghanol y ddinas, a dyma’r man cyfarfod annibynnol mwyaf yn y ddinas ar gyfer y celfyddydau creadigol. Daeth Le Public Space i fodolaeth gyda balchder o Le Pub, a oedd yn lleoliad cerddoriaeth bach ond gwych yng Nghasnewydd a fu’n weithredol am 25 mlynedd. Ers ei agor yn 2017, mae Le Public Space wedi trefnu rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw, celfyddydau, comedi, gan ddatblygu cynlluniau i ehangu ar hyn o bryd. Mae'n cael ei redeg gan yr ysbrydoledig Sam Dabb, a chyda chefnogaeth bwrdd penodedig mae'r lleoliad yn cael ei redeg gan y gymuned ar gyfer y gymuned yn ddi-elw ac er budd y gymuned. Eu cenhadaeth yw darparu man bywiog ar gyfer y celfyddydau sy’n agored i bawb, ac mae pawb sy’n gysylltiedig â'r lleoliad yn gweithio i annog amrywiaeth ac i gysylltu cynulleidfaoedd presennol a newydd â cherddoriaeth fyw, celfyddyd a sinema ragorol. Felly, a gawn ni ddatganiad ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi lleoliadau annibynnol lleol ledled Cymru? Ac a wnaiff y Gweinidog awgrymu bod y Gweinidog diwylliant, yr wyf yn nodi ei fod ef yma, yn edrych ar Le Public Space fel enghraifft wych o leoliad annibynnol?
Diolch yn fawr am godi'r ddau fater hyn ac, yn sicr, mae lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yn rhan hanfodol o'n llif o dalent newydd yma yng Nghymru o ran y diwydiant cerddoriaeth. Rwy'n credu bod Le Public Space yn enghraifft berffaith o sut y gall y busnesau hyn addasu ond hefyd ffynnu mewn amgylchiadau eithaf heriol. Ond hefyd, mae'n cyfrannu mewn gwirionedd at fywyd diwylliannol ein hardaloedd trefol yn ogystal â rhoi cyfle cyntaf i dalent Cymru fynd at eu cynulleidfaoedd cyntaf. Felly, mewn gwirionedd rydym wedi nodi gwerth lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad i fywyd diwylliannol Cymru.
Mae swyddogion y diwydiannau creadigol yn comisiynu ymarfer mapio o leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Cymru, a bydd yr astudiaeth ymchwil honno yn darparu map daearyddol o'r lleoliadau hyn ledled y wlad gyfan, gan nodi clystyrau, er enghraifft. Byddan nhw'n ystyried eu dichonoldeb o ran trafnidiaeth, mynediad a'r gynulleidfa, ac yn ystyried swyddogaeth yr economi liw nos yn yr ardaloedd hynny hefyd ac yn gwneud rhai argymhellion ar gyfer ymyriadau neu welliannau posibl y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud. Rwy'n gwybod y bydd Le Public Space yn un o'r lleoliadau hynny a gaiff eu hystyried.
O ran yr adroddiad a lansiwyd heddiw gan Usdaw, a diolch yn fawr iawn am ganiatáu i hynny ddigwydd yma yn y Cynulliad drwy eich nawdd chi, hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae Usdaw yn ei wneud o ran bod yn llais cryf iawn dros ei aelodau. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn arbennig o ddeifiol. Mae'n dweud wrthym ni am yr effaith y mae cyflogau isel yn ei chael ar bobl, effaith swyddi ansefydlog ar bobl ac effaith contractau annheg ar bobl. Felly, o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud i ymateb iddo, byddwn yn sicr yn edrych tuag at ein hymrwymiad i wneud Cymru yn genedl gwaith teg a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud drwy'r Comisiwn Gwaith Teg i wneud argymhellion ar sut y gallwn ni wella'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, a sut y gallwn ddefnyddio'r ysgogiadau sydd gennym, ond hefyd i archwilio pa gamau ychwanegol eraill y gallai fod eu hangen, er enghraifft, gan gynnwys deddfwriaeth yn y dyfodol. Felly, bydd yr adroddiad hwn yn sicr yn ystyriaeth bwysig i'r comisiwn hwnnw sydd ar fin cyflwyno argymhellion ym mis Mawrth eleni.
A gaf i ofyn, yn sgil cyhoeddi heddiw adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i sut y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ymdrin â'r ymchwiliad a'r adolygiad yn achos Kris Wade, bod y Gweinidog iechyd yn cynnal dadl yn amser y Llywodraeth ar y mater hwn, ac nid dim ond datganiad ysgrifenedig, a roddwyd inni heddiw? Wedi'r cyfan, dywedwyd wrthym y byddai'n barod ym mis Rhagfyr, ac nid oedd, felly, yr wyf i, os nad unrhyw un arall, wedi aros yn hir i'r adroddiad hwn gael ei gyflwyno. Ynddo, mae'n dangos y bu yna fethiannau llywodraethu clir nad ydynt wedi cael sylw mewn nifer o adolygiadau ac adroddiadau eraill. Ac mae sgil-effeithiau i'r adolygiad hwn, nid yn unig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond i fyrddau iechyd eraill. Felly, hoffwn weld dadl ar lawr y Siambr hon fel y gallwn graffu ar arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o dan ei gadeiryddiaeth bresennol a hefyd deall beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud yn wahanol nad yw wedi'i wneud hyd yn hyn yn yr holl adolygiadau eraill sydd wedi'u cynnal yn gysylltiedig â'r achos hwn, a hefyd ag achosion difrifol iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Hoffwn hefyd ofyn am ail ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ddoe, dywedodd aelod o staff Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrth fy swyddfa y byddai copi o'r adolygiad ar gael dan embargo o 6.00 p.m. ddoe, ac roedd ar gael. Gofynnodd fy staff i AGIC pam na roddwyd yr adroddiad inni tan 6.00 p.m. a dywedwyd wrthym fod hynny er parch i'r teuluoedd er mwyn iddyn nhw allu gweld yr adroddiad yn gyntaf. Fodd bynnag, heddiw, dangoswyd neges e-bost i mi gan newyddiadurwr a oedd yn dangos bod yr adroddiad wedi'i anfon ato ef am 9 o'r gloch ddoe, cyn Aelodau Cynulliad yn y sefydliad cenedlaethol hwn, gan ddefnyddio y teuluoedd a'r rheini sy'n dioddef fel esgus dros beidio â'i ddangos i Aelodau'r Cynulliad er mwyn osgoi craffu. Rwy'n credu bod hynny'n syfrdanol. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl annerbyniol. Felly, hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru i ddangos sut y digwyddodd hyn a pham nad yw Aelodau'r Cynulliad yn cael eu parchu pan fydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi.
Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog wedi gwneud y datganiad ysgrifenedig hwnnw yr ydych yn cyfeirio ato heddiw. Mae'r adroddiad yn gwneud 24 o argymhellion, tri ohonynt i Lywodraeth Cymru eu gweithredu ar sail Cymru gyfan, ac mae'r Gweinidog wedi derbyn pob un o'r tri argymhelliad hynny i Lywodraeth Cymru yn eu cyfanrwydd. Mae ef hefyd yn disgwyl i bob bwrdd iechyd roi ystyriaeth lawn i'r canfyddiadau ac i'r bwrdd iechyd penodol roi ystyriaeth lawn i'r argymhellion ar ei gyfer, gan sicrhau yr ymdrinnir â nhw a bod y newidiadau hynny yn cael eu hymgorffori yn y polisïau a'r gweithdrefnau.
Mae ef hefyd wedi gofyn i'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol weithio gyda'r GIG i wella ymhellach y dulliau o rannu'r hyn a gaiff ei ddysgu am ddiogelu. Mae'r gwaith wedi symud ymlaen yn dda gyda'r byrddau diogelu yng Nghymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, i ddarparu gweithdrefnau diogelu sy'n ategu'r canllawiau statudol presennol. A bydd yn gofyn i'r byrddau diogelu hynny ystyried canfyddiadau'r adroddiadau hefyd. Mae'n disgwyl i'r holl fyrddau iechyd ar y cam hwn i ystyried y canfyddiadau hyn.
Yn amlwg, mae hwn yn ddiwrnod anodd iawn i'r menywod sy'n rhan o'r achos ac i'w teuluoedd, ac mae ein meddyliau gyda nhw, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi hyn. Wrth gwrs, mae'n debyg mai'r cyfle cyntaf y byddai ganddi i'w godi ar y llawr gyda'r Gweinidog fyddai drwy gwestiynau amserol a byddai'r Gweinidog yn barod i dderbyn un pe byddai'n cael ei gytuno.
A byddaf i yn penderfynu os caiff ei gytuno.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog, hoffwn ofyn am dri datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar reoli traffig trefol. Bûm mewn cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth i yn Beaufort nos Wener, ac fe'm syfrdanwyd i glywed pobl yn siarad yno am y peryglon y maen nhw'n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd ar hyd y ffyrdd drwy'r gymuned. Clywais am blant yn cael eu taro i lawr, am bobl yn methu cerdded ar balmentydd ac am bobl yn ofni croesi'r ffordd. Yn amlwg, ni ellir disgwyl i bobl fyw yn yr amgylchiadau hyn. Ac felly, hoffwn ddeall gan Lywodraeth Cymru: pa bolisïau a pha brosesau sydd gan y Llywodraeth ar waith i flaenoriaethu a rheoli traffig mewn amgylcheddau trefol? Ni ellir disgwyl i bobl Beaufort fyw y bywydau y maen nhw'n eu byw, ac mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn gallu creu'r strwythurau a'r fframweithiau i'w defnyddio i wneud penderfyniadau i'w galluogi i fyw eu bywydau.
Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol bysiau a'r polisi bysiau. Clywais y newyddion dros y penwythnos am y toriadau i wasanaethau yng Nghaerdydd. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i weld nifer o weithiau ym Mlaenau Gwent, ac mae gwasanaethau bysiau sy'n gwasanaethu cymunedau Blaenau Gwent ac sy'n cysylltu Blaenau Gwent â chymunedau mewn mannau eraill ac â chyfleodd cymdeithasol, siopa a gwaith yn chwalu'n llwyr. Nawr, mae'n ymddangos i mi, os nad ydym ni'n gallu cynnal gwasanaeth bws sy'n gwasanaethu prifddinas Cymru mewn ardal drefol a phoblog, yna mae'n rhaid bod yr argyfwng sy'n wynebu gwasanaethau bysiau mewn mannau eraill llawer yn fwy. Hoffwn weld datganiad gan y Llywodraeth ar yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud i ddatrys, ymateb ac ymdrin â'r argyfwng hwn. Rwy'n ymwybodol bod yna ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac rwy'n ymwybodol bod y Llywodraeth yn bwriadu deddfu ar y mater hwn cyn diwedd y Cynulliad hwn. Ond mae hynny'n mynd i fod yn dair, neu o bosib pedair blynedd cyn y cawn ni ateb i'r broblem hon. Nid wyf yn credu y gallwn ni aros cyhyd â hynny. Rwy'n credu bod angen inni gael ymateb gan y Llywodraeth yn gynnar ac o fewn yr ychydig wythnosau neu fisoedd nesaf i ymateb i'r hyn yr wyf i'n credu sy'n argyfwng gwirioneddol sy'n wynebu gwasanaethau bws ar hyd a lled Cymru.
Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddynodi safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a lleoedd arbennig eraill. Mynychais ymchwiliad cyhoeddus fore dydd Gwener ym Mlaenafon gyda'r Aelod dros Dor-faen, fy ffrind da Lynne Neagle, a bu'r ddau ohonom yn siarad yn yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw am y cais a allai fod yn drychinebus a dinistriol i gloddio mewn ardal a elwir yn 'Tir Pentwys', sy'n ffinio ein dwy etholaeth. Nawr, er na fyddwn i'n disgwyl i'r Llywodraeth wneud sylwadau ar unrhyw ymchwiliad cynllunio byw, yr hyn y byddwn i yn disgwyl y byddai'r Llywodraeth yn gallu ei wneud yw rhoi syniad bras inni o'i pholisi a'i dull o ddynodi ardaloedd yn gyffredinol. Nid yw mor bell yn ôl â hynny pan oeddwn i'n sefyll yma yn lansio parc rhanbarthol y Cymoedd ac yn sôn am uchelgeisiau a dymuniadau'r Llywodraeth i'n gweld ni'n mwynhau tirwedd a threftadaeth Cymoedd de Cymru, ac rydym ni bellach yn gweld busnes sydd eisiau dinistrio'r dreftadaeth a'r dirwedd honno. Mae'r ddau beth yn gwbl anghydnaws. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gallu gwneud datganiad ar y mater hwn hefyd.
Diolch i chi am godi'r materion hyn. Ar y pwynt olaf ynglŷn â dynodiad SoDdGA ac ardaloedd arbennig eraill, byddaf yn sicr o ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi gyda'r eglurder yr ydych yn ei geisio o ran esbonio'r polisi a'r dull o ymdrin â'r ardaloedd dynodedig.FootnoteLink
Unwaith eto, ar fater gwasanaethau bws, cefais sgwrs gyda'r Gweinidog dros drafnidiaeth i drafod pryd y byddai modd iddo geisio cyflwyno datganiad a fyddai'n ateb y cwestiynau a godwyd gennych chi. Tynnaf eich sylw hefyd at rai o'r atebion, rwy'n credu, a roddodd y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, a oedd yn ymdrin â rhai o'r materion hynny ynghylch rheoli traffig trefol. Ond pe byddech yn dymuno ysgrifennu at y Gweinidog trafnidiaeth yn uniongyrchol ynglŷn â'r maes penodol y mae gennych bryderon yn ei gylch, rwy'n siŵr y byddai 'n awyddus i ymchwilio ymhellach i hynny.
Diolch i'r Trefnydd.