Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

QNR – Senedd Cymru ar 29 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gofal iechyd i gleifion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

The Welsh Government provides significant new investment in hospital and community schemes throughout Mid and West Wales. Whether that be investment in third sector schemes through the integrated care fund in Pembrokeshire, £25 million for neonatal services at Glangwili or the new Canolfan Goffa Ffestiniog, all are aimed at improving care for patients in the region.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae disgwyl i awdurdodau lleol gynllunio eu darpariaeth addysg Gymraeg drwy eu cynlluniau strategol ar gyfer y Gymraeg mewn addysg. Cafodd pob un o’r 22 o gynlluniau eu cymeradwyo y llynedd. Mae pob un o’r awdurdodau wedi cyflwyno eu cynlluniau gweithredu, ac rydyn ni’n canolbwyntio nawr ar sicrhau bod y cynlluniau hynny’n cael eu cyflawni.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar sut bydd cynllun twf y gogledd yn datblygu’r economi yn Arfon?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae’r cynnig twf gan y bwrdd uchelgais economaidd yn nodi cynlluniau i ysgogi twf economaidd cynaliadwy drwy’r gogledd, gan gynnwys Arfon. Rŷ’n ni’n gwerthuso potensial y cynnig yn gyffredinol i gyflawni amcanion y cynllun gweithredu economaidd yn y gogledd, gan dargedu cryfderau allweddol fel ynni, gweithgynhyrchu uwch ac ansawdd yr amgylchedd naturiol.

Photo of David Rees David Rees Labour

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

I visited Tata’s Port Talbot plant and met senior Tata executives and others earlier today. I look forward to future engagement with the sector as First Minister.  

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyhoeddiad REHAU ynghylch dyfodol eu ffatri yn Amlwch?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae’r newyddion yma’n achosi pryder, yn enwedig o gofio’r cyhoeddiad am Wylfa Newydd ar 17 Ionawr. Cafodd fy swyddogion a’r awdurdod lleol gyfarfod gyda’r cwmni ar 28 Ionawr i drafod pa gymorth y gellir ei roi. Rŷ’n ni’n barod i wneud popeth sy’n bosib i helpu.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

I met the Prime Minister last week where I urged her Government to rule out no deal, extend article 50 and seek a cross-party majority in Parliament for the form of Brexit set out in 'Securing Wales’ Future', which we believe would also be to the advantage of the whole United Kingdom.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chyfraddau hunanladdiad yng Nghymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

'Talk to me 2’, our strategy to prevent suicide and self-harm, sets out the aims and objectives to prevent and reduce suicide and self-harm in Wales over the period 2015-20. We also published our response to the Health, Social Care and Sport Committee inquiry into preventing suicide published last week, which will inform our work plan.