Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 30 Ionawr 2019.
Mae'n anodd peidio â bod yn ddigalon braidd ar hyn o bryd, yn enwedig ar ôl yr araith honno, ond ein cyfrifoldeb ni yn y lle hwn yw cynnig rhyw fath o gyfeiriad o leiaf, a rhywfaint o obaith. Dechreuodd Brexit gyda phobl yn cynnig addewidion ffug ac anghyson: gallem adael yr UE a dal i gael mynediad dilyffethair at ei farchnadoedd heb fod yn ddarostyngedig i'w ddeddfau. Nawr, fe wnaeth y Senedd ymroi i'r un math o ffantasi Brexit ddoe. Pleidleisiodd Senedd y DU neithiwr (a) nad yw Brexit 'dim cytundeb' yn opsiwn, a (b) fod yn rhaid cael gwared ar y ddarpariaeth wrth gefn ar gyfer Iwerddon o'r cytundeb ymadael, er bod yr UE wedi dweud, ac wedi dweud eto o fewn munudau i'r bleidlais yn y Senedd, nad yw hynny'n opsiwn. Rydym wedi mynd o dagfa lwyr i gylch diddiwedd drosodd a throsodd drwy gydol y saga drist hon, a byddwn yno eto ymhen pythefnos. Mae San Steffan wedi cicio'r can i lawr y lôn gynifer o weithiau nes y dylai ddod yn gamp genedlaethol newydd.
Nawr, bydd Mrs May'n mynd yn ôl i Frwsel am yr eildro ac yn ceisio argyhoeddi ei chymheiriaid yn yr UE dros y pythefnos nesaf i ailagor y trafodaethau, a byddant yn gwrthod gwneud hynny eto, a chanlyniad hyn yw ein bod yn llithro tuag at Brexit 'dim cytundeb' y mae'r Senedd wedi dweud nad yw mo'i eisiau ond dyna fydd y canlyniad diofyn oni chaiff erthygl 50 ei hymestyn, a dyna, yn baradocsaidd, y pleidleisiodd y Senedd yn ei erbyn neithiwr. Ddoe, roedd San Steffan, yn y bôn, yn ewyllysio gweld diwedd ar flocio 'dim cytundeb' heb ewyllysio dull o gefnogi dewis amgen hyfyw yn ei le. Mae gwelliant Brady nid yn unig yn amhosibl ei gyflawni, mae'n amhosibl ei ddehongli. Ni fyddai hynny byth yn atal rhai tebyg i Boris Johnson, wrth gwrs, rhywun sydd eisiau cael ei gacen a'i bwyta yn gwbl ddigwestiwn. I aralleirio Oscar Wilde, mae'r glymblaid dros dro a glytiodd Theresa May at ei gilydd gyda Grŵp Diwygo Ewropeaidd a'r DUP yn enghraifft o'r anhraethol yn mynd ar drywydd yr anghyraeddadwy. Beth yn union yw'r 'trefniadau amgen' hyn? Treuliodd negodwyr Brexit ddwy flynedd yn ceisio dod o hyd i'r trefniadau amgen chwedlonol hyn i'r ddarpariaeth wrth gefn, ac yn y diwedd bu'n rhaid i Lywodraeth Prydain hyd yn oed roi'r gorau iddi. A ydym o ddifrif yn credu eu bod yn mynd i ddod o hyd iddynt yn y bythefnos nesaf drwy ryw ryfedd wyrth? Mae'r ddarpariaeth wrth gefn yno. Mae'r ddarpariaeth wrth gefn yno i sicrhau, os na ddeuir i gytundeb masnach ehangach, ac na ellir dod i atebion eraill, na fydd Iwerddon—y gogledd na'r de—yn gweld ffin galed yn dychwelyd; h.y., os na fydd trefniadau amgen yn gweithio, bydd y ddarpariaeth wrth gefn yn dod yn weithredol. Yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn gwahodd yr UE i gytuno yn ei gylch yn awr yw trefniadau amgen rhag ofn nad yw'r trefniadau amgen yn gweithio—mewn geiriau eraill polisi yswiriant heb yswiriant, rhwyd ddiogelwch heb rwyd, darpariaeth wrth gefn heb gefn iddi.
Nawr, ffantasi rhai Torïaid yw bod Mrs May yn mynd i fynd i Frwsel yn awr a sicrhau tro pedol ganddynt ar raddfa moment Fontainebleau enwog Mrs Thatcher. Ond beth bynnag arall y gellid ei ddweud am Thatcher—ac mae llawer y gellid ei ddweud—roedd hi o leiaf yn gyson: 'the lady's not for turning'. Mae Mrs May newydd gyflawni'r tro pedol mwyaf mewn hanes. Hyd at dri diwrnod yn ôl, roedd hi'n dweud bod angen y ddarpariaeth wrth gefn a bod arni hynny i bobl Gogledd Iwerddon. Mae'n dweud yn awr ei bod hi am gael ei gwared. Pa ryfedd nad yw aelod-wladwriaethau'r UE yn hapus iawn. Yr un dewis go iawn sydd ar ôl bellach yw naill ai Brexit 'dim cytundeb' neu bleidlais y bobl. Mae gwleidyddiaeth wedi torri ar hyn o bryd. Ond ymhen 58 diwrnod, bydd mwy na gwleidyddiaeth yn y fantol, ac ni fydd pobl yn maddau i ni, a bydd hanes yn ein barnu'n hallt os na wnawn bopeth yn ein gallu i atal trychineb y gellir ei osgoi, a dyna pam y mae'n iawn, gyda San Steffan yn sownd yn y gors, inni ddod ynghyd yma yn y Senedd hon i ganfod ffordd allan o'r gors. Felly, mae heddiw'n gam cadarnhaol, ond gadewch i ni atgoffa ein hunain mai'r geiriau pwysicaf yn y cynnig hwn yw 'ar unwaith'. Nid oes gennym fawr o amser. Rhaid inni weithredu gyda phendantrwydd, heb oedi, heddiw.