Mercher, 30 Ionawr 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella caffael cyhoeddus yng Nghymru? OAQ53295
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli treth incwm? OAQ53308
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas â rhwydwaith y swyddfeydd post? OAQ53319
4. A wnaiff y Gweinidog nodi polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu mesurau trethiant? OAQ53314
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Trysorlys ynghylch ailddyrannu unrhyw arian gan neu i'r UE pan fydd y DU yn ymadael â'r UE? OAQ53310
6. Pryd y gwnaiff y Gweinidog gyhoeddi canllawiau cylch cyflog 2019 ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru? OAQ53309
7. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ofal iechyd yng Ngogledd Cymru wrth benderfynu ar gyllideb 2019/20? OAQ53279
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd ystadegau gwladol mewn perthynas â gamblo cymhellol? OAQ53301
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mandy Jones.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i Gymru? OAQ53278
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cynllun nofio am ddim i blant a phensiynwyr? OAQ53285
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu twristiaeth yn Islwyn? OAQ53299
4. A wnaiff y Gweinidog nodi blaenoriaethau cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Cymru? OAQ53312
5. Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran meithrin cysylltiadau â chenhedloedd di-wladwriaeth? OAQ53316
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd tuag at ei tharged o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ53284
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Comisiynydd David Rowlands ac i'w ofyn gan Huw Irranca-Davies.
1. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o fannau diogel i storio beiciau ar ystâd y Cynulliad? OAQ53297
2. Sut y mae lefel y gwastraff bwyd a gynhyrchwyd ar ystâd y Cynulliad yn ystod y chwarter diwethaf yn cymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol? OAQ53293
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru yn dilyn y cyfarfodydd rhanbarthol cyntaf? OAQ53315
4. Sut y bydd Comisiwn y Cynulliad yn ariannu unrhyw gostau ychwanegol a fydd yn gysylltiedig â'r posibilrwydd o newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ53318
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol ac mae gennyf ddau yr wythnos hon, a daw'r cyntaf gan Bethan Sayed.
1. A wnaiff y Gweinidog ymateb i adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â honiadau a wnaeth cleifion ag anawsterau dysgu...
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad REHAU Ltd. i ymgynghori ar ddyfodol ei ffatri yn Amlwch? 273
Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, a daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Vikki Howells.
Symudwn yn awr at y cynnig i atal Rheolau Sefydlog 11.16 a 12.20 er mwyn i'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog gael ei drafod, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig...
Felly, symudwn ymlaen at y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig hwnnw—Rhun ap Iorwerth.
Eitem 6 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar systemau gwybodeg y GIG, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Nick Ramsay.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Gareth Bennett, gwelliant 2 yn enw Darren Millar, a gwelliant 3 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Gareth Bennett, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae pleidlais gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar garchardai a chyfiawnder troseddol. Galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth....
Mi fyddaf i'n symud i'r eitem nesaf, sef y ddadl fer. Ac os caf i ofyn i Bethan Sayed i gyflwyno'r ddadl fer—Bethan Sayed.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol yn 2019?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau beicio cymunedol ym Mhowys?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglŷn a seibiannau treth i'r sector ynni hydro cymunedol?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia