Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 30 Ionawr 2019.
Fe gymeraf un mewn eiliad, Lywydd. Mae'n warthus, a dweud y gwir, ei fod wedi bod yn hapus i gyfarfod â therfysgwyr heb amodau yn y gorffennol, ond nad yw wedi bod yn barod i gyfarfod â'r Prif Weinidog tan neithiwr pan ildiodd o'r diwedd o dan bwysau. Fe gymeraf yr ymyriad a ddaeth yn gyntaf.