8. Dadl ar NNDM6958 — Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 6:05, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Beth yw'r pwynt o gael cyfarfod â Phrif Weinidog sy'n dweud, 'Dewch i gwrdd â mi a thrafod, ond ni fyddaf yn newid unrhyw un o fy llinellau coch'? Y pwynt yn awr, wrth gwrs, yw bod y Senedd wedi dweud bod yn rhaid i 'dim cytundeb' ddod oddi ar y bwrdd. Mae wedi dweud hynny, a'r cwestiwn yw a fydd Theresa May yn gwrando ar y Senedd.