Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 30 Ionawr 2019.
Gyda Thwrci, mae'r Aelod yn rhoi enghraifft pam ei bod mor ddrwg bod mewn undeb tollau gyda'r UE heb fod ag unrhyw lais dros ei bolisi masnach. Ond a yw'n cydnabod mai un canlyniad cadarnhaol o ran cystadleurwydd y dur a gynhyrchir yn ei etholaeth ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yw cyfradd gyfnewid sydd 15 y cant yn is? A bydd, fe fydd Sefydliad Masnach y Byd yn creu heriau, ond bydd hefyd yn debygol o ddod â chyfradd gyfnewid sydd hyd yn oed yn fwy cystadleuol.