8. Dadl ar NNDM6958 — Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 6:37, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, hynny yw, mae hynny'n anwybyddu'r ffaith bod nifer fawr o'r Aelodau Seneddol Ceidwadol heb ei chefnogi chwaith. Dyna'r broblem sydd gennym yma; ni allai hi fynd â'i phlaid ei hun gyda hi. Dyna'r broblem sydd gennych yn eich plaid eich hun.

Un pwynt olaf—[Torri ar draws.] Un pwynt terfynol: mae'r amgylchiadau wedi newid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Bellach, nid wyf yn gweld pam na allwn ofyn i bobl fynegi barn yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol. Yn sicr, boed yn gefnogwyr Brexit neu'n gefnogwyr aros, byddwn yn treulio ein holl amser yn trafod sut olwg a ddylai fod ar Brexit heb ofyn i'r bobl. Felly, gadewch inni ateb y cwestiwn unwaith ac am byth a setlo'r mater drwy ofyn i'r bobl.