Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 30 Ionawr 2019.
Credaf eich bod newydd gadarnhau, Weinidog, eich bod, wrth gwrs, fel Llywodraeth, yn dal i edrych ar y system gaffael. Ond a allwch roi sicrwydd inni, pan fyddwch wedi gwneud penderfyniadau cadarn ynglŷn â hyn, y byddwch yn dysgu gwersi fel y gall busnesau bach yn arbennig gael cyfle i gymryd rhan yn y system gaffael?