Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 30 Ionawr 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Mae'n debyg eich bod yn meddwl ein bod mewn cylch diddiwedd a'n bod wedi cael trafodaeth am hyn yr wythnos diwethaf. Rydym wedi bod yn sôn am ddatganoli treth incwm ers peth amser bellach, a bydd y realiti gyda ni cyn bo hir. Yn ogystal â'r weithred fecanyddol o godi trethi, mae angen gallu rhag-weld yn gywir er mwyn gwneud hynny, a gwyddom fod hynny wedi'i wneud ar lefel y DU ers peth amser bellach, ond ychydig iawn o brofiad sydd gennym yng Nghymru o wneud y rhagolygon hynny. Beth rydych yn ei wneud i ddatblygu capasiti Llywodraeth Cymru fel y gellir gwneud rhagolygon cywir er mwyn i chi allu gwneud y penderfyniadau gorau yn y dyfodol?