Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 30 Ionawr 2019.
Weinidog, yn amlwg felly, mae'n rhaid rhoi hyn ar waith o 1 Ebrill ymlaen, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Nid yw diwedd mis Chwefror yn rhoi llawer o amser iddynt roi mesurau amrywiol ar waith fel y gallant weithredu'r dyfarniadau cyflog hyn yn effeithiol. A oes unrhyw obaith y gallwch gyflymu'r cyhoeddiad, sydd eisoes yn eithaf hwyr yn y cylch, rwy'n credu, fel y gallant gyflawni hyn yn effeithiol—y cynlluniau ariannol hyn?