Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru a Chyllideb 2019-20

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:11, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am godi'r mater hwn. Yn sicr ar lefel Cymru gyfan, gwn ein bod yn gweld rhai o'r lefelau isaf o oedi wrth drosglwyddo gofal ers dechrau cadw cofnodion, ond rwy'n derbyn bod yr amgylchiadau a ddisgrifiwch yn unigryw yn yr ystyr ein bod yn sôn am ddarpariaeth drawsffiniol. Nid wyf yn ymwybodol o'r mater, ond yn sicr, byddaf yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog iechyd i archwilio'r mater ymhellach.