Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol seilwaith sylfaenol i ymwelwyr. Gallaf gadarnhau—ac nid oes angen imi ddweud wrthych gan eich bod yn gwybod—fod yr amgylchedd o gwmpas Cwmcarn ac yn benodol, canolfan antur Cwmcarn, yr ymwelais â hi'n ddiweddar hefyd, yn lleoliad delfrydol ar gyfer pob math o weithgareddau awyr agored, ac mae Caerffili, fel awdurdod lleol, yn ymrwymedig iawn i ddatblygu'r cynnig twristiaeth. Bydd buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd yma, wrth gwrs, drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth, yn arwain at fuddsoddi dros £1.8 miliwn yn y gyrchfan honno. Rwy'n awyddus iawn, yn enwedig oherwydd fy nghefndir a'r math o ardal a gynrychiolaf, i weld prosiectau twristiaeth yn cael eu cyd-leoli, yn enwedig twristiaeth antur, gyda'n tirweddau hanesyddol, gan gynnwys y rheini a fu'n gartref i'n treftadaeth ddiwydiannol werthfawr, ond niweidiol yn aml hefyd, yn y gorffennol.