Un Filiwn o Siaradwyr Cymraeg Erbyn 2050

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:10, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Y llynedd, lansiodd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ddogfen o'r enw 'Yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymru'. Roedd y ddogfen wedi'i hanelu at hyrwyddo a chynyddu dwyieithrwydd ar draws y rhanbarth. Roedd canfyddiadau'r adroddiad hwnnw yn nodi'r ffaith bod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn dymuno cael mwy o weithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg a Saesneg. Felly, mae yna awydd cynyddol, ond yn anffodus, nid oes digon o gyfleoedd i bobl ddysgu'r iaith, yn enwedig oedolion. Tybed pa waith y gallwch ei wneud o bosibl gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac eraill yn rhanbarth Gogledd Cymru, i hybu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg lle nad oes ganddynt unrhyw sgiliau iaith Gymraeg, fel y gallwn sicrhau bod y math o uchelgais a geir yn y ddogfen hon yn cael ei gyflawni yn y dyfodol.