Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 30 Ionawr 2019.
Mae gan y Cynulliad gyfleuster storio beiciau cudd a diogel. Ar hyn o bryd, mae gennym ddigon o le i storio 69 o feiciau, ac mae capasiti pellach wedi'i gynllunio ar gyfer eleni. Yn ogystal, mae rheseli beiciau cyhoeddus ar gael i ymwelwyr eu defnyddio y tu allan i Dŷ Hywel. Rydym hefyd yn darparu cawodydd, loceri a chyfleusterau sychu dillad i feicwyr eu defnyddio.