Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 30 Ionawr 2019.
Wrth gwrs, bydd yn galw am ymagwedd lawer ehangach tuag at y ddarpariaeth feicio. Er mwyn gwneud hynny wrth gwrs, byddwn yn ystyried y posibilrwydd o gael gwared ar leoedd parcio ceir ar ryw adeg yn y dyfodol. Yn amlwg, rydym yn gobeithio na fydd hynny'n effeithio ar y bobl sy'n defnyddio ceir oherwydd gobeithio y byddant yn defnyddio beiciau ac felly, yn amlwg, bydd llai o alw am y lleoedd parcio ceir.