Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 5 Chwefror 2019.
Dwi wedi galw am arian ychwanegol a ffocws ychwanegol i fargen twf y gogledd, o ganlyniad i gyhoeddiad Hitachi ynglŷn â Wylfa Newydd, ac mi ellid ychwanegu cyhoeddiad Rehau yn Amlwch at hynny hefyd. A thra mod i'n nodi a chroesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn barod i roi rhagor o arian i'r fargen twf yn y gogledd, os daw arian ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dwi yn ymwybodol o bryderon y gallai newid y fargen twf rŵan arwain at oedi yn y broses. Os felly, ydy'r Prif Weinidog yn fodlon ystyried rhyw fath o gynllun cyllido yn ychwanegol at y fargen twf, ac yn rhedeg mewn paralel â'r fargen twf, er mwyn dod â'r hwb angenrheidiol yna i Ynys Môn, ar yr adeg heriol yma?