Mawrth, 5 Chwefror 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros y gwasanaeth iechyd ar draws gogledd Cymru? OAQ53374
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargeinion twf yng Nghymru? OAQ53379
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau'r gwerth gorau am arian ar gyfer caffael cyhoeddus? OAQ53333
4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch lliniaru tagfeydd traffig yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ53372
5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran datganoli gweinyddol mewn cysylltiad â lles? OAQ53335
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gategoreiddio ysgolion? OAQ53376
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb fargen ar y sector modurol yng Nghymru? OAQ53378
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran datblygu cyfranogiad mewn chwaraeon? OAQ53371
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad a'r cyhoeddiad—Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol ar ddigartrefedd a chysgu allan. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: y wybodaeth ddiweddaraf am fodel buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 5 a 6 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3, 4, 7 ac 8 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Felly, symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Rydym ni'n mynd i bleidleisio ar ddyfodol rheilffyrdd Cymru. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella democratiaeth yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia