Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 5 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 5 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, yn yr achos enwog pan wnaeth John Howard ddiswyddo ei holl benaethiaid adrannol 20 mlynedd yn ôl yn Awstralia, cyfeiriwyd ato fel 'noson y cyllyll hir'. Nawr mae eich Llywodraeth chi yn gwadu pob gwybodaeth am sgyrsiau y mae sawl ffynhonnell uwch wedi mynnu eu bod wedi digwydd. Mae'n ymddangos mai noson y cofion byr yw hon. Nawr, roedd yn dweud yn yr erthygl eich bod chi'n awyddus i gael dechrau newydd, ond i roi mwy o hygrededd i'r hyn a ddywedasoch nawr, heddiw, ar y cofnod, a allwch chi gadarnhau na fyddwch chi nac unrhyw un sy'n gweithredu ar eich rhan naill ai'n gwneud cais nac yn cytuno i'r Ysgrifennydd Parhaol derfynu ei chontract yn gynnar? Wedi'r cyfan, mae egwyddor bwysig iawn yn y fan yma—mae'r cliw yn yr enw ysgrifennydd 'parhaol'. Er mwyn gwarchod natur ddiduedd ac annibyniaeth y gwasanaeth sifil, ni ddylai gwleidyddion byth allu diswyddo'r gwasanaeth sifil uwch. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os na fydd unrhyw ddechrau newydd yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf, mai'r bobl fydd y barnwr wedyn, ac mai chi fydd yr unigolyn a ddylai gael ei ddiswyddo wedyn o dan yr amgylchiadau hynny ?