Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Chwefror 2019.
Prif Weinidog, i'm hetholwyr i yn Islwyn, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnig y posibilrwydd gwirioneddol o weddnewid ein cymunedau. Nod y fargen ddinesig yw darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac ysgogi gwerth £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Pa gymorth ychwanegol, felly, a goruchwyliaeth y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i'r 10 awdurdod lleol sy'n rhan o fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a beth all cymunedau Islwyn ei ddisgwyl ei weld yn realistig o ffrwyth yr ymdrechion hyn?