Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 5 Chwefror 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r pwyntiau y mae'n eu codi yn rhai pwysig i bobl sy'n byw yn y brifddinas yn arbennig. Oherwydd y sefyllfa yng nghwmni Bws Caerdydd y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gysylltu â'r cwmni i gynnig cyngor iddyn nhw, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael pa bynnag gymorth sydd ei angen arnyn nhw i geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb i'r pwysau masnachol y maen nhw'n ei wynebu ac i wneud penderfyniadau sy'n hybu iechyd hirdymor gwasanaethau bysiau yn y brifddinas.