Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 5 Chwefror 2019.
Wel, Llywydd, mae trefniant priodol lle ceir bwrdd sy'n gofalu am Bws Caerdydd ac mae'r berthynas rhwng y cwmni a chyngor y ddinas yn un i gyngor y ddinas ei hun i fod yn fodlon â hi, nid i mi. Cyn belled ag y gwelaf i o'r tu allan, rwy'n credu bod y trefniadau craffu hynny yn gadarn. Yn dilyn y Papur Gwyn y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi ei gyhoeddi ac yn y ddadl yn ei gylch yma yn y Cynulliad, gallai arwain at awdurdod trafnidiaeth ar y cyd, a fyddai'n atgyfnerthu'r trefniadau craffu ymhellach dros yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd ond yn fwy eang ar draws holl ranbarth de Cymru a thu hwnt.