Datblygu Cyfranogiad mewn Chwaraeon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:18, 5 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae llwyddiant ar lefel broffesiynol yn bwysig iawn o ran ysbrydoli mwy o gyfranogiad ar lawr gwlad, ac yn y cyd-destun hwnnw, tybed a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod llwyddiant Clwb Pêl-droed Casnewydd yn dychwelyd i gynghrair pêl-droed Lloegr yn y blynyddoedd diwethaf, yn cyflawni dihangfa wyrthiol rhag cwympo o'r gynghrair ac yna cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Lloegr y llynedd, gan drechu Leeds United, cael gêm gyfartal â Tottenham Hotspur a mynd i Wembley ar gyfer y gêm ailchwarae, a heno eto yn wynebu Middlesbrough ym mhedwaredd rownd Cwpan Lloegr ar ôl trechu Dinas Caerlŷr yn y rownd ddiwethaf. A fyddech chi'n cytuno â mi bod hyn yn gosod esiampl wych i'r rhai sy'n ystyried cymryd rhan mewn pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghasnewydd, Prif Weinidog? Ac a wnewch chi hefyd ymuno â mi i anfon dymuniadau da i Gasnewydd ar gyfer y gêm heno?