Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 5 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Ar fater y ffordd newydd ym Meisgyn, rwy'n credu efallai mai'r peth mwyaf priodol i'w wneud fyddai ichi ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth er mwyn cael yr eglurder yr ydych yn ei geisio ar ran eich etholwyr yn y fan honno.
Ac ynghylch mater Cyfraith Lucy, byddaf yn sicr yn cael sgwrs gyda'r Gweinidog i gael gwybod pryd y cawn ragor o fanylion ynghylch yr ymgynghoriad hwnnw ac unrhyw gamau arfaethedig sy'n ei ddilyn.