Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 5 Chwefror 2019.
Hoffwn i ddechrau gyda'r meysydd yr wyf yn credu bod cytundeb llwyr â nhw, fwy na thebyg, ar draws y Siambr, ar y mater hwn o'r pwys mwyaf, yn fy marn i—baromedr cyflawn ar gyfer y math o warineb sydd gennym mewn cymdeithas, neu fel arall. Credaf mai cysgwyr allan yw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, o ran bod mor bell o dai diogel ac addas. Roeddwn i'n falch o glywed hynny gan y Gweinidog. Er bod cysgu allan yn rhywbeth parhaus, mae'n beth annerbyniol ac nid yw'n anochel, a dyna'r farn y mae angen inni ei chlywed gan y Llywodraeth. Mae tai gweddus yn hawl dynol sylfaenol. Credaf fod hynny wedi ei ddatgan yn eglur iawn ar ôl yr ail ryfel byd, ond efallai ei fod wedi mynd ar goll dros y degawdau diwethaf i ryw raddau, ac mae angen inni ei ailddatgan. Mae angen inni fod yn ddewr ac eofn—rwy'n hoffi'r geiriau hynny, ac rwy'n eich cymeradwyo amdanynt—a phrofi ein modelau gwasanaeth presennol. Ar yr egwyddorion hyn, gallwn adeiladu consensws a dull cadarn o weithredu ar y mater heriol hwn.
Cyfeiriodd y Gweinidog at lwyddiant y Ddeddf tai o ran ysgogi Cymru i ganolbwyntio ar atal, ac rwyf wedi clywed llawer o bobl yn canmol dull y Llywodraeth. Felly, gan ganolbwyntio ar un neu ddau o ddiffygion, rwy'n awyddus iawn i fod yn gytbwys a dweud fy mod wedi clywed pobl yn canmol y dull gweithredu ac yn ei wthio ar rannau eraill o'r DU. Serch hynny, clywais hefyd dro ar ôl tro mai diffyg allweddol yn Neddf 2014 yw nad yw ond yn ofynnol i awdurdodau lleol helpu'r rhai sy'n mynd ati i geisio cymorth. Nawr, wrth gwrs, mae llawer yn mynd y tu hwnt i hynny, ond y gofyniad yn ôl y gyfraith yw ymateb i'r rheini sy'n mynd ati i geisio cymorth, a gall yr awdurdodau lleol roi'r gorau i'w dyletswyddau o ran digartrefedd pe na fyddai unigolyn yn cydweithredu â'r awdurdod lleol—unwaith eto, nid yw hynny'n dweud bod yn rhaid iddyn nhw, ond y bydden nhw yn gallu gwneud felly. Ac, yn olaf, nid yw'r rhai sy'n cysgu allan yn ennill statws angen blaenoriaethol yn awtomatig yn ôl y ddeddfwriaeth.
Nawr, mae'r Gweinidog wedi cymeradwyo model Tai yn Gyntaf, ac rwy'n cytuno â hi mai honno yw'r ffordd orau ymlaen fwy na thebyg o ran mynd i'r afael â'r rhai sy'n cysgu allan. Ond credaf nad yw rhai o'r pethau sydd bellach, os nad ydynt wedi eu hymgorffori, yna wedi eu caniatáu, yn y dull deddfwriaethol yn cyd-fynd yn hollol â hynny. Er tegwch, rwy'n credu ichi gyfeirio at rai o'r anawsterau yn y dull o ennill teilyngdod wrth roi tai. Ond rwyf i'n credu bod angen inni edrych yn ofalus ar y ddeddfwriaeth i weld sut mae'n gweithredu ar y lefel hon o ddod â chymorth i'r rhai sy'n cysgu allan, ac na all yr angen cyfredol i ofyn am gymorth ac yna, mewn ffordd barhaus, gydweithredu fod yno fel prif egwyddor yn y ddeddfwriaeth. Ni ddylid ei ddehongli fel yna, oherwydd, yn amlwg, mae gan y rhai sy'n cysgu allan anghenion cymhleth iawn, iawn, fel y dywedoch chi, ac mae eu hamgylchiadau yn gymhleth iawn hefyd.
Credaf fod y model yn Wrecsam yn wirioneddol galonogol oherwydd mae ganddyn nhw yno yr hyn a alwoch yn 'allgymorth grymusol'. A dyna'r ffordd ymlaen, mae'n ymddangos i mi, o ran sut y byddwn yn dehongli'r ddeddfwriaeth, ac felly rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cadarnhau hynny.
Yn olaf, rwyf am bwysleisio'r gwaith arloesol yn y sector gwirfoddol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen erthygl graff a theimladwy Lindsay Cordery-Bruce yn y Western Mail ddoe. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod o'r farn mai hon yw un o'r erthyglau sylwebaeth gorau i mi ei darllen ers blynyddoedd lawer mewn unrhyw bapur newydd, a dweud y gwir, ar y pwnc hwn, ac rwy'n annog yr Aelodau nad ydyn nhw wedi cael cyfle i'w darllen i wneud hynny. Mae Lindsay yn pwysleisio'r angen am ddull gweithredu, rwy'n dyfynnu sy'n rhoi'r tosturi yn ôl yn y comisiynu.
Diwedd y dyfyniad. Ac mae angen rhoi sylw arbennig i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nawr, gwn fod y Llywodraeth yn edrych ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn i'r sector hwn. Mae hi'n dweud hefyd bod digartrefedd wedi mynd yn argyfwng o ran arweinyddiaeth lawn cymaint ag yn argyfwng o ran tai, a chredaf mai ein dyletswydd ni bellach yw ceisio cyfuno'r consensws egnïol hwn a symud pethau yn eu blaenau.
Ac rwyf am orffen mewn maes arall yn y sector gwirfoddol, gyda Phrif Weithredwr Crisis, John Sparks, a ddywedodd, ar ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd heddiw, ac rwy'n dyfynnu:
Mae'n ddim llai na sgandal cenedlaethol fod pobl, noson ar ôl noson, yn dal i orfod cysgu allan ar ein strydoedd, yn enwedig gan y gwyddom pe cymerid y camau cywir y gellid rhoi diwedd ar hynny am byth.
Mae angen i bob un ohonom ni weithio tuag at hynny.