Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 5 Chwefror 2019.
Felly, gan ddechrau gyda hynny, rydym ni'n gweithio'n galed i fynd ar drywydd unrhyw gyfle deddfwriaethol a fyddai'n codi er mwyn ymdrin â'r materion yn sgil adran 21. Nid wyf i mewn sefyllfa i allu dweud mewn gwirionedd beth yw hynny ond rydym yn mynd ar drywydd y dewisiadau amrywiol sydd ar gael i ni, o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, i allu mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.
Rydym hefyd, fel y clywsoch chi fi'n dweud mewn ymateb i gwestiynau eraill, yn golygu cael polisi adeiladu tai cymdeithasol o swmp mawr iawn, ac rydym yn bwriadu gweithio gyda'r awdurdodau lleol mor gyflym ag y bo modd i ryddhau tir cyhoeddus er mwyn iddyn nhw allu gwneud hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn—mae Rebecca Evans a minnau'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y trefniadau i roi capiau ar y cyfrif refeniw tai yn cael eu codi ym mhob awdurdod lle ceir hynny ar hyn o bryd. Credaf fod gennym ni bedwar ar ôl, ond beth bynnag does yna ddim llawer ar ôl eto. Rydyn ni'n annog awdurdodau lleol i raddau helaeth iawn i fynd ati a defnyddio eu pwerau benthyca darbodus i ddechrau'r adeiladwaith ar gyfer tai ar rent cymdeithasol.
Rydym hefyd, wrth gwrs, yn dilyn ein polisi tai fforddiadwy,—rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd ein nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Ond nid dyna'r unig ateb sydd ei angen, fel y dywed Jenny Rathbone yn gywir. Mae gennym brinder tai dybryd iawn ac mae hynny'n achosi peth o'r digartrefedd. Ond mae gennym gynnydd mewn tlodi a achoswyd gan gyni, sydd hefyd yn cyfrannu at deuluoedd yn chwalu, a'r pwysau arnynt ac ati a amlinellwyd ganddi yn fedrus iawn, rwy'n credu.
Felly, rwy'n mynd yn ôl at ddweud bod angen inni ddysgu oddi wrth yr awdurdodau da iawn hynny sydd â rhaglenni campus. Mae angen inni ledu'r arfer gorau ledled Cymru. Hoffwn i orffen drwy ddweud yr hyn a ddywedais yn fy natganiad: a mynegi gwir ddiolchgarwch y Llywodraeth i'r holl bobl sy'n gweithio yn y sector hwn—y trydydd sector, yr awdurdodau lleol, gwirfoddolwyr ac ati—hebddyn nhw byddem wedi gweld llawer iawn mwy o farwolaethau ar y strydoedd.