Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 5 Chwefror 2019.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Cafwyd ymchwiliad ar broblemau digartrefedd a chysgu allan yn y pwyllgor cymunedau y llynedd, ac fel y soniodd David Melding, mewn llawer o achosion darlun cymhleth yw hwn, ac rydych chi wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad heddiw. Weithiau mae angen dulliau cymhleth a thrawsbynciol i ddatrys y problemau hyn, a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau at y dull yn Wrecsam, lle, yn amlwg, bydd gofyn i chi fonitro sut y bydd y canlyniadau yn datblygu. Ond mae'n ymddangos fod angen rhyw fath o ddull trawsbynciol arnoch chi yn aml, ac efallai'n wir mai dyna maen nhw'n ei wneud gyda'u canolfannau gofal cymunedol yno. Felly, gallai honno fod yn enghraifft y gallwn ni ei defnyddio o bosib wrth edrych ar hyn ledled Cymru.
Nawr, un mater amlwg a welsom ni'n ddiweddar yw'r cynnydd mewn pobl sy'n byw mewn pebyll yng nghanol trefi, sy'n mynd yn fater dadleuol. Yn amlwg, mae'n ymddangos ei bod yn well eu byd ar y rhai mewn pebyll na'r rhai sy'n byw y tu allan ac yn agored i'r elfennau—mae hynny i'w weld yn amlwg—ond credaf fod angen inni fod yn ymwybodol bod rhai o fewn y sector tai wedi codi materion ynglŷn â hyn, sef bod yr hyn sy'n ymddangos yn ddatrysiad dros dro o fyw mewn pabell yn troi yn ateb hirdymor, a gallai hynny mewn gwirionedd atal pobl yn y diwedd rhag chwilio am ddatrysiadau o ran tai mwy hyfyw i'r hirdymor.
Felly, mae pobl mewn sefydliadau fel y Wallich yn codi materion am hyn. Credaf fod angen i ni ymchwilio i'r rhesymau pam mae pobl yn fwy parod weithiau i fyw mewn pebyll yn hytrach na cheisio lloches mewn llochesi dros nos. Nawr, ceir rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau, a rhai o'r bobl sydd wedi cael eu cyfweld—rhai o'r bobl ddigartref sy'n byw yn y pebyll—wedi nodi nad yw llochesi dros nos weithiau mor ddeniadol iddyn nhw â byw mewn pabell ac weithiau nid ydynt yn teimlo'n ddiogel yn y llochesi dros nos. Felly, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid inni geisio datrys sut i'w gwneud yn fwy hyfyw i gael llety i bobl mewn lloches dros nos.
Rwy'n credu bod defnyddio cyffuriau yn mynd yn broblem—ceir rhywfaint o dystiolaeth ei bod yn mynd yn fwy anodd i bobl ailintegreiddio wedi bod yn ddigartref am amser maith ac maen nhw'n fwy tebygol o gael eu hecsbloetio ar y strydoedd gan rai sy'n gwerthu cyffuriau. Mewn gwirionedd, mae llawer o'r rhai sydd yn y pebyll—y rhai a ddyfynnwyd—yn dweud mai un o'r rhesymau nad ydyn nhw'n dymuno mynd i'r llochesi dros nos yw eu bod eisiau osgoi cwrdd â defnyddwyr cyffuriau. Ond, mewn gwirionedd, os byddan nhw'n aros yn y pebyll, mae rhywfaint o dystiolaeth y gallan nhw ddod ar draws defnyddwyr cyffuriau hyd yn oed yn groes i'w dymuniadau.
Felly, mae'r rhain yn broblemau cymhleth, ac rwy'n sylweddoli nad yw'r atebion bob amser mor hawdd â hynny. Credaf fod yna rywfaint o dystiolaeth bod cysgu allan yn yr Alban—efallai fod y ffigurau wedi sefydlogi, felly tybed a oes gwersi i'w dysgu o'u dulliau nhw yno. Mae rhai wedi nodi hefyd bod llawer o elusennau, o bosib, ar adegau, yn cystadlu â'i gilydd. A gawn ni weithio i sicrhau bod yr elusennau yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i ddatrys y materion hyn? Diolch yn fawr.