Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 5 Chwefror 2019.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae digartrefedd a chysgu allan yn gywilydd mawr i'r genedl. Mae'r ffaith nad oes gennym ni ddigon o dai ar gyfer ein dinasyddion yn beth digon gwael, ond mae'r ffaith ein bod yn esgeuluso rhai â phoen meddwl, gan arwain atyn nhw'n cysgu yn nrysau siopau, yn warthus, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi. Mae canran fawr o'r rhai sy'n cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd yn gyn-filwyr. Maen nhw'n gadael y lluoedd arfog, yn aml yn dioddef o glwyfau corfforol a meddyliol a gawsant mewn brwydrau, yn disgwyl cael eu cartrefu gan genedl ddiolchgar, ddim ond i gael eu gadael, yn ddiymgeledd ac yn ddigartref.
Mae'r rhai a oedd yn barod i aberthu eu bywydau i'n hamddiffyn ni a'n cenedl yn cael eu trin yn wael erbyn hyn, ac yn cael eu gwthio o'r neilltu, fel nad ydyn nhw'n cael eu gweld ac felly'n mynd yn angof. Nid yw hyn yn ddigon da, er mwyn y nefoedd. Mae gwleidyddion o bob tuedd wedi ymosod ar rai sy'n cysgu allan fel sbwriel i'w olchi o'n strydoedd heb fynd i'r afael â'r achosion sydd wrth wraidd hynny, heb feddwl am y dioddefaint ofnadwy y mae pobl sy'n cysgu allan yn ei brofi. Nid yw pobl yn dewis cysgu yn nrysau siopau—gorfod gwneud hynny y maen nhw. Ni ddylem godi cywilydd arnyn nhw, gan mai arnom ni y dylai'r cywilydd fod. Rwy'n gwybod am sawl cyn-filwr sy'n teimlo ei fod dan orfodaeth i guddio'r ffaith ei fod yn cysgu allan y tu ôl i finiau neu mewn llwyni oherwydd y ffordd y cân nhw eu trin. Ble mae'r cydymdeimlad â'r rhai sy'n llai ffodus na ni?
Pan oeddwn i'n gweithio yng ngharchar Parc, roedd pobl yn y carchar am grwydraeth. Ni ddylen nhw fod yn y carchar; dylen nhw fod wedi cael cymorth yn ein cymuned. Yn anffodus, mae Llywodraethau olynol wedi methu â darparu digon o dai fforddiadwy, sy'n arwain at y cynnydd hwn mewn digartrefedd. Gweinidog, sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy eleni? Mae Llafur Cymru wedi bod mewn grym yng Nghymru am bron i ddau ddegawd ac eto mae digartrefedd wedi cynyddu. Felly, a wnewch chi dderbyn bod eich polisïau chi ar fai am y cynnydd?
Mae Helsinki bron â chael gwared yn gyfan gwbl ar gysgu allan dros y ddau ddegawd diwethaf, ac ers 2007, mae Llywodraeth y Ffindir wedi seilio ei pholisïau digartrefedd ar sail polisïau Tai yn Gyntaf. Gweinidog, pa wersi yr ydych chi wedi eu dysgu o brofiad y Ffindir?
Yn ôl Shelter, mae llety Tai yn Gyntaf yn ddewis amgen i bobl â phroblemau iechyd meddwl hirdymor neu broblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac eto nid oes yng Nghymru ond ychydig iawn o lety Tai yn Gyntaf. Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y bwriadwch gywiro hynny?
Ac yn olaf, Gweinidog, pa gamau penodol fydd eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr digartref a sicrhau bod milwyr yn cael help, cymorth a thriniaeth ar ôl gadael y lluoedd arfog, er mwyn atal eu digartrefedd a chysgu allan yn y pen draw?