Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 5 Chwefror 2019.
Gweinidog, rwy'n credu bod llawer o bobl yn rhannu'r ymdeimlad cryf iawn ei bod yn foesol anghyfiawn fod gennym ni yn y bedwaredd, y bumed, neu chweched economi fwyaf yn y byd lawer o bobl yn ddigartref ac yn cysgu allan, a chredaf fod hynny'n cael ei amlygu yn y math o ymateb gwirfoddol y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato'n gynharach. Gwn ar adeg y Nadolig, er enghraifft, fod llawer o bobl wedi dod i helpu gyda rhai o'r gwasanaethau dros dro a sefydlwyd yng nghanol y dinasoedd a'r trefi, a'u bod wedi cael eu cynghori i fynd adref am eu bod yn baglu dros ei gilydd. Ond roedd eu hymrwymiad yn sicr i'w groesawu, yn amlwg, serch hynny. Ond mewn gwirionedd mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn deall sut, fel Teyrnas Unedig ac yng Nghymru, yr ydym ni'n analluog i'n trefnu ein hunain fel gwladwriaeth, fel gwlad, fel cymdeithas, mewn ffordd sy'n atal digartrefedd a chysgu allan cynyddol. Mae'n amlwg bod angen inni wneud yn llawer, llawer iawn gwell.
O ran y pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, sef y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Gweinidog, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau o ran rhywfaint o'r gwaith a wnaethom ni, o ran rhai o'ch ymatebion chi ac ymatebion eich rhagflaenydd a'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. O ran y cynllun gweithredu, roedd ceisio cael mwy o wybodaeth yn mynd i ddigwydd drwy wneud ymchwil i achosion y cynnydd diweddar mewn cysgu allan. Tybed a yw'r gwaith hwnnw wedi nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer mesurau atal mwy cadarn. Hefyd, bwriedir i'r cynllun gweithredu cysgu allan fod yn ddogfen fyw, ac rwy'n holi i ba raddau y mae honno wedi esblygu a pha ddatblygiadau sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Ac ar yr ymatebion i'r argymhellion yn adroddiad ein pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru y byddai cod o ganllawiau yn cael ei ddiweddaru ar gyfer awdurdodau lleol ynglŷn â dyrannu llety a digartrefedd, ac y byddai hwnnw'n cael ei gyhoeddi tua diwedd y llynedd ac y byddai'n destun ymgynghoriad. Felly, o gofio nad ydym wedi gweld ei gyhoeddi, rwy'n holi ynglŷn â'n sefyllfa ni gyda'r materion hynny.
Yn olaf, nododd ymateb Llywodraeth Cymru ei bod yn y broses o gomisiynu asesiad annibynnol o'r goblygiadau a risgiau posib sy'n gysylltiedig â newid y dull blaenoriaeth angen presennol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith hwnnw a rhoi syniad o ba bryd y cyhoeddir y canfyddiadau?