Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 5 Chwefror 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ynghylch ei safbwynt ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop. Fe wnaethom ni alw ar y DU i aros yn bartner tanysgrifio yn y banc—rhywbeth yr ydym ni'n credu a fyddai wedi bod yn gyraeddadwy pe byddai'r DU wedi dangos yr ewyllys gwleidyddol i wneud hynny. Wedi'r cyfan, rydym ni i gyd yn elwa o gyllid Banc Buddsoddi Ewrop: mae benthycwyr yn elwa o gost cyfalaf llai ac mae aelod-wladwriaethau yn eu swyddogaeth fel buddsoddwyr yn elwa o adenillion graddol ar fuddsoddiadau. Fel y mae pethau, gyda neu heb gytundeb, ar 29 Mawrth, bydd y DU yn gadael Banc Buddsoddi Ewrop yn ddisymwth. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi unrhyw drefniant diogelu ar waith, ac eithrio cynnig i roi £200 miliwn o gyfalaf ychwanegol i Fanc Busnes Prydain yn 2019. Does dim ond angen imi nodi bod Banc Buddsoddi Ewrop dros y 10 mlynedd diwethaf wedi buddsoddi ar gyfartaledd mwy na £5 biliwn y flwyddyn yn y DU i ddangos pa mor bitw yw'r trefniant diogelu hwn. Dim ond yr wythnos diwethaf dywedodd Tŷ'r Arglwyddi, yn gynnil braidd, bod diffyg unrhyw gynigion ystyrlon gan y Llywodraeth Geidwadol ynglŷn â pherthynas gyda Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol neu ddewisiadau domestig amgen yn siomedig. Ar y lleiaf, mae'r Llywodraeth hon eisiau i'r Deyrnas Unedig anrhydeddu ei hymrwymiad i sicrhau perthynas ystyrlon gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Rhaid i'r berthynas honno gynnwys mandad clir i Fanc Buddsoddi Ewrop barhau i fuddsoddi yma, gan ddarparu'r arian a'r arbenigedd y mae benthycwyr cyhoeddus a phreifat wedi gallu dibynu arnyn nhw ers mwy na phedwar degawd.
Gan droi at y model buddsoddi cydfuddiannol, fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Cyllid am roi ystyriaeth briodol i'r model buddsoddi cydfuddiannol tuag at ddiwedd y llynedd. Bydd Aelodau'n gwybod ein bod ni wedi ymrwymo i gyflawni tri chynllun gan ddefnyddio'r ffurf arloesol hon o gyllid: cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465, buddsoddiad ychwanegol yng ngham nesaf rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a Chanolfan Ganser newydd Felindre. Gyda'i gilydd, mae gan y cynlluniau hyn werth cyfalaf o fwy na £1 biliwn, ac ni fyddent yn fforddiadwy o'n cyllidebau cyfalaf cyfredol, sydd wedi'u disbyddu. Pe na byddem ni wedi datblygu'r model, byddai prosiectau fel y rhain yn gorfod aros eu tro nes bod digon o gyfalaf ar gael, ac er gwaethaf yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed gan San Steffan ynglŷn â diwedd cyni, nid yw'r rhifyddeg gyllidebol yn adlewyrchu hyn o gwbl.
O'r cychwyn cyntaf, ein bwriad erioed fu sicrhau bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn hyrwyddo budd y cyhoedd yn y diffiniad ehangaf posib o'r term hwnnw. Yn hynny o beth, bydd y model yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ychwanegol mewn cysylltiad â llesiant, gwerth am arian a thryloywder, ac wrth wneud hynny bydd yn osgoi llawer o'r beirniadu a fu ar ffurfiau hanesyddol o bartneriaethau cyhoeddus-preifat—mewn rhai achosion, beirniadaeth yr oedd Llywodraeth Cymru ymhlith y cyntaf i'w mynegi. Er enghraifft, fe gofiwch chi fod un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi beirniadu'r ffurf ar fenter cyllid preifat sydd wedi ei hanghymeradwyo bellach. Yn wir, yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn disgwyl i bob awdurdod contractio yng Nghymru gynnal adolygiadau o'u contractau menter cyllid preifat hanesyddol a chanfod ble mae modd gwneud arbedion.
O ran llesiant, bydd partneriaid preifat yr ydym ni'n contractio gyda nhw gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gorfod helpu'r Llywodraeth i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd angen iddyn nhw gynnig manteision cymunedol eang, gyda chosbau am fethu â gwneud hynny. Bydd angen iddyn nhw fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. A bydd angen iddyn nhw adeiladu ein seilwaith gan ystyried cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol. Byddwn yn gofyn i holl gynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol gael arfarniad buddsoddi trwyadl y model pum achos—dull arfarnu achrededig rhyngwladol, y mae Llywodraeth Cymru yn gydberchennog arno. Mae Gweinidogion Cyllid y G20 wedi mabwysiadu egwyddorion y model yn sail ar gyfer safon fyd-eang o ran arfarnu buddsoddi mewn seilwaith.
Rydym ni hefyd wedi datblygu dull sicrwydd prosiect newydd y bydd pob cynllun sy'n defnyddio'r model buddsoddi cyddfuddiannol yn ddibynol arno—gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol. Rydym ni wedi cynnal dau o'r gwiriadau hyn ar y gwaith o ddeuoli'r A465. Cefnogwyd y gwiriadau hyn gan arbenigwyr o Fanc Buddsoddi Ewrop ac Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau'r DU. Rwy'n argyhoeddedig y bydd arfarniadau buddsoddi trwyadl, ynghyd â sicrwydd prosiect cadarn gan arbenigwyr diamheuol, nid yn unig yn esgor ar well dealltwriaeth o'r peryglon dan sylw wrth ddarparu prosiectau seilwaith mawr, ond hefyd yn arwain at werthfawrogiad mwy credadwy o werth am arian prosiectau o'r fath, a pha mor fforddiadwy ydyn nhw. Er mwyn cynyddu gwerth am arian ein cynlluniau, rydym ni wedi penderfynu'n fwriadol i beidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol i ariannu gwasanaethau meddal, megis glanhau ac arlwyo, a oedd yn un o'r beirniadaethau mawr ar gontractau menter cyllid preifat blaenorol, ac ni chaiff ei ddefnyddio chwaith i ariannu offer cyfalaf.
O ran tryloywder, mae'r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi swm bach o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael cyfran o unrhyw elw o fuddsoddiad. Caiff y cyfranddaliad hwn ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru i fyrddau'r cwmnïau hynny sy'n darparu ein hasedau.
Cytunais y mis diwethaf, yn ddibynol ar gwblhau gwaith diwydrwydd dyladwy yn foddhaol, y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi 15 y cant o gyfanswm y gofyniad cyfalaf risg ar gyfer y cynllun i ddeuoli ffordd yr A465, wrth ddisgwyl penderfyniad i ddechrau adeiladu. Bydd y buddsoddiad hwn ar delerau cydradd, gyda buddsoddwyr ecwiti preifat. Er bod pob cyfalaf risg, drwy ddiffiniad, yn fuddsoddiad gydag elfen o risg, rydym ni'n disgwyl i'n buddsoddiad ennill elw i'r sector cyhoeddus y gellir ei ailfuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus eraill.
Mae'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth wedi penderfynu gwneud y gorchmynion ar gyfer y cynllun hwn. Cyhoeddwyd llythyrau hysbysu ddoe. Bydd yn rhoi manylion pellach am gynnydd y prosiect hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae'r Llywodraeth wedi cydnabod y pwysau gwirioneddol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, ac rydym ni wedi bod yn benderfynol yn ein hymrwymiad i wneud popeth yn ein gallu i'w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf polisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU. Ochr yn ochr â'r pecyn tair blynedd o fesurau ariannol ychwanegol a gyhoeddwyd gennym ni cyn y gyllideb derfynol, rydym ni wedi cytuno, ar gyfer cam nesaf rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, y byddwn yn cynyddu'r cyfraddau ymyrryd ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r model cyfalaf a'r model buddsoddi cydfuddiannol ill dau.
Bydd prosiectau cyfalaf yn elwa o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru o 65 y cant o'r costau, a bydd prosiectau sy'n defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn elwa o gyfraniad lled-gymharol gan Lywodraeth Cymru o 81 y cant o'r costau. Bydd ysgwyddo rhagor o faich, er yn heriol, yn darparu cymorth ychwanegol gwerthfawr i'n partneriaid darparu yn y cyfnod hwn o gyni. Mae hefyd yn cynnig cyfle gwych i ni gyflawni mwy mewn partneriaeth. Bydd y Gweinidog Addysg yn nodi manylion pellach am y gyfradd ymyrraeth mewn datganiad ysgrifenedig cyn bo hir. Diolch.