4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 5 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:46, 5 Chwefror 2019

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Wrth gwrs, dwi'n cytuno efo'r bwriad yn fan hyn, sef yr angen i chwilio am ffyrdd arloesol o hybu buddsoddiad yn ein hisadeiledd ni: isadeiledd sydd yn dangos ôl clir o danfuddsoddi yn hanesyddol—a'r tanfuddsoddiad yna, dwi'n eich atgoffa chi, yn dod gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol dros y blynyddoedd. Er, wrth gwrs, dwi'n cytuno bod oes llymder wedi dyfnhau'r broblem.

Felly, oes, mae eisiau edrych ar ystod o fodelau sydd ar gael neu a all gael eu datblygu. Dwi'n edrych ymlaen i weld datblygiad yr egwyddor o godi arian drwy fondiau Llywodraeth. Gaf i hefyd ddweud fy mod i'n falch o glywed cyfeiriad yn y datganiad at ein perthynas ni efo Banc Buddsoddi Ewrop, yr EIB? Mae'n bryderus iawn bod diffyg sylw na sicrwydd yng nghanol llanast Brexit i sut i ddiogelu'r math o fuddsoddiad sydd ar gael drwy'r EIB ar hyn o bryd, a dwi'n cytuno y dylid sicrhau bod y berthynas efo'r EIB yn parhau yn y dyfodol. Dwi wedi bod i bencadlys yr EIB yn Lwcsembwrg, ynghyd â nifer o aelodau'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, a sylweddoli'r awch sydd yna a'r gallu sydd yna o fewn y Banc Buddsoddi Ewropeaidd i chwilio am brosiectau y gallen nhw eu cefnogi er budd buddsoddiad hirdymor yn cryfhau ein hisadeiledd ni, a dwi'n ofni beth sy'n digwydd os ydy hynny'n cael ei golli.

Ond, i droi at y model buddsoddi cydfuddiannol, mae fy mhlaid i wedi rhoi croeso gofalus i ddatganiadau Llywodraeth Cymru ar y model hyd yma. Yn wir, un rhwystredigaeth dŷn ni wedi ei leisio ydy diffyg uchelgais, o bosib, o ran faint y gallwn ni edrych i'w godi neu ei fuddsoddi yn defnyddio'r model yma. Ond, wrth gwrs, mae eisiau bod yn ofalus iawn a nodi mor, mor bwysig ydy cael y model yn iawn. Dŷn ni yn, yn annatod, mae'n siŵr, yn mynd i fod yn dwyn cymariaethau efo PFI, ac mae'r Gweinidog wedi dwyn cymariaethau heddiw er mwyn ceisio tawelu rhai ofnau. Mae rhai pobl yn mynd i edrych ar beth ydy diffiniad y model yma a beth ydy diffiniad PFI a'u gweld nhw yn eithaf tebyg, ond dwi'n meddwl mai'r hyn dŷn ni'n chwilio amdano fo ydy sicrwydd bod risg yn gorwedd yn y lle iawn, achos, a bod yn blaen, mi oedd llawer gormod o gynlluniau PFI yn dangos mai bach iawn oedd y risg oedd yn cael ei chymryd gan fuddsoddwyr preifat, a hynny tra yn eu gweld nhw'n gwneud elw mawr.

Felly, allaf i ofyn i'r Gweinidog, yn dilyn cyfres o addewidion bod hwn yn wahanol, pa gamau sydd yn mynd i fod yn cael eu cymryd i werthuso'r cytundebau wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau i sicrhau bod y cydbwysedd risg wedi cael ei daro yn iawn ac nad oes yna or-elwa? Achos partneriaeth, cydfuddsoddiad a system gydfuddiannol ydy hon i fod, ac mi ydyn ni drwy'r amser angen bod yn gwerthuso i sicrhau mai dyna sydd gennym ni, achos tra bod buddsoddwyr, yn deg iawn, angen gweld bod yna return hirdymor teg i ddod o wneud buddsoddiad, dŷn ni angen sicrwydd bod yna werth am arian i'r pwrs cyhoeddus.

Ac, yn ail, o bosib yn cyfeirio yn ôl at ein rhwystredigaeth ni ynglŷn â diffyg uchelgais ar hyn o bryd, allwch chi roi awgrym i ni o'r camau nesaf ar gyfer chwilio am fuddsoddiadau pellach yn defnyddio'r model newydd yma a rhoi gair o eglurhad ynglŷn â sut mae blaenoriaethu'n mynd i ddigwydd? Oherwydd, cyn yr etholiad diwethaf, mi oeddem ni ym Mhlaid yn sôn am roi'r pŵer i flaenoriaethu ym maes isadeiledd i gorff hyd braich o'r Llywodraeth. Mi fyddai gen i ddiddordeb mewn gwybod i ba raddau mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn edrych am gyngor ac arweiniad a thrafodaeth civic ynglŷn â gosod y blaenoriaethau ar gyfer defnyddio'r model newydd yma yn y ffordd mwyaf effeithiol.