Darpariaeth y Gwasanaeth SenCom

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:31, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Lynne, mae'n hollbwysig ymgysylltu’n briodol â’r teuluoedd sy'n cael y gwasanaeth hwn, ac na chaiff diddordebau unigol dysgwyr unigol eu hanghofio ar unrhyw adeg. A buaswn yn cytuno'n llwyr â chi fod angen i unrhyw ymgynghoriad â theuluoedd fod yn ystyrlon, ac ni all fod yn ystyrlon os na all rhieni gymryd rhan. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, bydd fy swyddogion yn parhau i geisio sicrwydd gan Gasnewydd, ac yn wir, gan awdurdodau lleol eraill a allai gael eu heffeithio gan y cynnig hwn, i sicrhau nad yw anghenion dysgu'r plant a'r bobl ifanc hynny'n cael eu peryglu.