Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 6 Chwefror 2019.
Yn gyntaf, mae'r Aelod yn anghywir yn dweud fy mod yn gwrthod yr hawl i rieni eithrio'u plant. Os yw'r Aelod wedi darllen y Papur Gwyn, fe fydd yn gwybod bod y Papur Gwyn yn cynnwys cwestiynau penodol ynglŷn â sut yr ymdriniwn â'r hawl i eithrio plant o wersi o'r fath. Ond gallaf roi sicrwydd llwyr i'r Aelod, wrth sicrhau bod ein plant yn dysgu am rywioldeb a chydberthynas, y byddant yn dysgu am faterion fel cydsyniad, trais domestig, beth yw perthynas iach, a lle i gael cymorth os ydynt mewn sefyllfa lle maent yn pryderu am eu diogelwch.