Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:49, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi gyfundrefn addysg rhyw a chydberthynas newydd, a fydd yn orfodol i ysgolion heb fodd i rieni optio eu plentyn allan ohoni. A wnewch chi sicrhau bod y cwricwlwm Addysg Rhyw a Chydberthynas newydd yn cynnwys nodi beth a olygir wrth gam-drin, pam ei fod yn anghywir, sut i'w atal, a beth i'w wneud os bydd yn digwydd?