Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 6 Chwefror 2019.
Weinidog, mae'n eironig ein bod yn treulio llawer o amser yn y Siambr hon yn sôn am wrando mwy ar bobl ifanc, ac yn wir, fel rydych newydd ei grybwyll yn eich ateb blaenorol, sefydlu Senedd Ieuenctid, rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei groesawu ac yn awyddus i'w weld yn cael ei ddatblygu i'r eithaf. Fe sonioch eich bod yn credu y byddai'r Senedd Ieuenctid yn ffordd o sicrhau bod syniadau disgyblion a phobl ifanc ynglŷn â'r cwricwlwm a materion ehangach yn chwarae mwy o ran. Tybed a allwch ymhelaethu ychydig mwy ynglŷn â sut y byddech yn rhagweld y gallai hynny ddigwydd yn ymarferol mewn perthynas â datblygu'r cwricwlwm.