Datblygu 'Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes'

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:55, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Er gwaethaf y camau mawr hynny, mae'r comisiynydd plant wedi bod yn feirniadol nad yw lleisiau plant wedi cael eu clywed yn ddigonol wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Cynhaliais ddigwyddiad yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead ddydd Mawrth gyda Fforwm Ieuenctid Caerffili, lle cyflwynwyd deiseb ganddynt a ddywedai eu bod yn awyddus i sicrhau bod gwersi 'cwricwlwm am oes' yn orfodol yn y cwricwlwm newydd. Maent yn teimlo nad yw'r cwricwlwm presennol yn darparu'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt. Mae Cymdeithas y Plant hefyd wedi argymell bod lles y plentyn yn rhan ganolog o'r cwricwlwm newydd, a'r teimlad cyffredinol ymhlith y bobl y siaradais â hwy yw y gellid gwneud mwy eto i gynnwys lleisiau plant yn y broses o ddatblygu'r cwricwlwm. Felly, pa gynnydd y mae hi'n ei wneud?