Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Weinidog. Nid oes amheuaeth gennyf eich bod yn gwneud gwaith gwych yn eich rôl eich hun, ond mae data newydd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos bod nifer myfyrwyr o'r UE a myfyrwyr nad ydynt o'r UE sy'n mynychu prifysgolion Prydain wedi codi. Yn 2017 a 2018, mynychodd dros 458,000 o fyfyrwyr brifysgolion ym Mhrydain—cynnydd o 16,000 ar y blynyddoedd blaenorol, ac 20,000 ers blwyddyn refferendwm yr UE. Ar nodyn cadarnhaol, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion hwn, sydd wedi'i gyflawni, fel y byddai'r BBC yn ei ddweud, 'er gwaethaf Brexit'?