Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Chwefror 2019.
Yn gyntaf, a gaf fi gymryd y cyfle hwn, Lywydd, i roi gwybod i bobl fod prifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru yn agored i fusnes? Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniadau a wneir gan aelodau staff Ewropeaidd, a myfyrwyr Ewropeaidd, ac yn wir, myfyrwyr nad ydynt o Ewrop sy'n dod i astudio yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonynt yn parhau i wneud hynny.
Ond mae angen i'r Aelod wrando ar Prifysgolion Cymru a ColegauCymru mewn perthynas â'r bygythiadau gwirioneddol a achosir gan Brexit i'n sector AB ac AU. Mae'r Aelod, wrth eu hanwybyddu, yn bod yn ddi-hid gyda dyfodol y sector tra phwysig hwn. Heb amheuaeth—heb amheuaeth— bydd Brexit, ar ba ffurf bynnag y bydd yn digwydd, yn effeithio ar y sector, ac nid mewn ffordd gadarnhaol.