Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Llywydd. Dwi am ddechrau lle gorffennais i y tro diwethaf i mi gael sgwrs efo chi ar draws y Siambr, sef efo'r frawddeg anffodus a oedd yn eich Papur Gwyn yr wythnos diwethaf am ddysgu Saesneg mewn ysgolion a lleoliadau meithrin. Dwi ddim yn mynd i fynd dros yr un un tir eto, a dwi'n falch iawn eich bod chi wedi gwneud tro pedol ar y mater yma ac na fydd newid polisi fel yr awgrymodd Gweinidog y Gymraeg wrth ateb fy nghwestiynau i yma ddydd Mercher diwethaf ac fel cafodd ei gadarnhau mewn datganiad byr a ymddangosodd ar wefan y Llywodraeth ddydd Llun.
Ond mae yna gwestiynau pellach yn codi yn fy meddwl i yn sgil y ffiasgo yma. Mae'n amlwg mai camgymeriad oedd cynnwys y frawddeg, ond sut yn y byd y caniatawyd i frawddeg a fyddai wedi golygu newid polisi syfrdanol i ymddangos mewn Papur Gwyn yn y lle cyntaf? Onid ydy cyhoeddiadau pwysig fel Papurau Gwyn yn cael eu darllen a'u hailddarllen drosodd a throsodd er mwyn osgoi camgymeriadau sylfaenol? Onid oes proses i sicrhau cysondeb gyda pholisïau craidd y Llywodraeth?
A'r cwestiwn arall sy'n codi ydy: pam y byddai unrhyw un yn yr adran addysg yn ychwanegu'r fath frawddeg a sut ydych chi am wneud yn siŵr fod yr holl swyddogion addysg yn gyfarwydd â pholisïau sydd wedi cael eu cydnabod ers degawdau fel y rhai cywir ar gyfer dysgu Cymraeg i blant o dan saith oed? Dyna'i gyd y gallaf fi ei ddweud ydy bod y llanast yma'n tanseilio eich hygrededd chi fel Gweinidog, gweision sifil yr adran addysg a'r Llywodraeth yma.